Ddiwrnod ar ol disgrifio gorsaf newydd Radio Cymru 2 fel “cam i’r cyfeiriad iawn”, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud fod y defnydd o gerddoriaeth Saesneg ar y gwasanaeth newydd yn “tanseilio’r Gymraeg”.
Er bod cadeirydd Grŵp Digidol y Gymdeithas, Aled Powell, yn dal i gredu bod Radio Cymru 2 “yn gam yn y cyfeiriad iawn” o safbwynt darlledu yn Gymraeg, mae’n credu nad yw gorsafoedd Cymraeg ar hyn o bryd mewn sefyllfa i fod yn “ddwyieithog” o ran cynnwys.
“Y drwg ydi, gyda dim ond un orsaf a hanner, mae rhoi unrhyw gynnwys Saesneg neu unrhyw iaith arall ar yr orsafoedd prin sydd gennym ni ar hyn o bryd ar draul yr iaith Gymraeg,” meddai.
“Dw i’n deall bod Radio Cymru 2 ar gael rŵan, ond dydi o ddim yn cael ei drosglwyddo dros yr awyr ar donfeddi arferol fel FM. Felly i bobol sy’n gyrru ceir, er enghraifft, maen nhw dal yn sownd efo un orsaf yn y Gymraeg.
“A phob tro mae’r orsaf honno’n chwarae caneuon, neu’n siarad Saesneg neu unrhyw iaith arall, mae’r iaith Gymraeg am ychydig funudau yn diflannu…”
“Dim lle i ganeuon Seisnig”
Er bod Aled Powell yn credu ei bod yn bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn cael y cyfle i brofi caneuon rhyngwladol, mae’n credu nad oes lle iddyn nhw ar ein gorsafoedd cenedlaethol “ar hyn o bryd”.
“Does dim lle i ganeuon Saesneg ar hyn o bryd oherwydd does gennym ni ddim digon o orsafoedd i gyrraedd y man lle mae’n bosib chwarae’r rheiny heb iddyn nhw fod ar draul y dewis sydd ar gael yn y Gymraeg,” meddai eto.
“Mae’r ffaith bod caneuon Seisnig yn cael eu chwarae yn cryfhau’r dadl bod angen dewis ehangach o orsafoedd a darparwyr hefyd, a bod angen datganoli darlledu er mwyn sicrhau hynny.”
Ymateb BBC Cymru
Meddai llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae Radio Cymru yn falch iawn ein bod ni bellach yn cynnig dewis i wrandwyr yn y bore, sydd yn adlewyrchu dyhead y gynulleidfa.
“Mae’r Sioe Frecwast yn cynnig cwmni, chwerthin a cherddoriaeth yn y Gymraeg yn ogystal â rhai caneuon yn Saesneg. Mae hyn yn gyson gyda pholisi Radio Cymru fel gwasanaeth eisoes.
“Mae’n werth nodi y bydd Radio Cymru 2 yn rhoi mwy o gyfle i artistiaid Cymraeg gael eu clywed, ac fe fydd cynnydd yn y nifer o ganeuon Cymraeg sydd yn cael eu chwarae ar draws y cyfryngau.”