Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru – ynghyd ag Ysgrifennydd Brexit yr Alban – yn annerch Tŷ’r Arglwyddi ddydd Llun (Ionawr 29), gan drafod pryderon am ddeddfwriaeth Brexit.
Y ‘Mesur Ymadael’ fydd yn dod â goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ben, ac yn troi cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn rhai Prydeinig.
Ond mae gweinyddiaethau Cymru a’r Alban eisoes wedi datgan anfodlonrwydd â’r ddeddf ar ei ffurf bresennol, gan ddadlau y byddai’n caniatáu cipio grym rhag llywodraethau datganoledig.
Wrth i’r ‘Mesur Ymadael’ fynd gerbron arglwyddi yfory, bydd Mark Drakeford ac Ysgrifennydd Brexit yr Alban, Michael Russell, yn annog Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno newidiadau i’r ddeddfwriaeth.
“Amddiffyn datganoli”
“Wrth i’r mesur gael ei ystyried yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae’n hanfodol bod yr arglwyddi yn ymwybodol o’n safbwynt,” meddai Michael Russell.
“Dw i’n edrych ymlaen at esbonio sut mae modd amddiffyn datganoli.”
Mae llefarydd ar ran y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd “cynnydd sylweddol” mewn pwerau i’r llywodraethau datganoledig wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.