Rhaid rhoi cyfrifoldebau pellach i gynghorau cymuned a thref, neu gael gwared arnyn nhw’n llwyr yn ôl cynghorydd sir a chymuned o Wynedd.
Yn ôl Siôn Jones, sy’n cynrychioli pentrefi Bethel a Seion ger Caernarfon, er bod y cynghorau yma yn codi £50 y flwyddyn ar drethi “dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth”.
Ei ddadl yw bod cyfrifoldebau tros dorri llwybrau troed ac ymgynghori tros geisiadau cynllunio ddim yn ddigonol, a bod angen datblygu eu rôl er mwyn rhoi pwrpas go iawn iddyn nhw.
“Naill rydan ni’n edrych ar gael gwared arnyn nhw, neu ein bod ni o ddifri yn gwneud rhywbeth efo nhw,” meddai wrth golwg360.
“Ar hyn o bryd, os ydach chi isio panad a chacen ar nos Fawrth bob mis, ewch i Gyngor Cymuned Leol. Dyna’r fath o siop siarad ydan nhw. Mae’n rhaid i ni fynd ati yng Nghymru i wneud rhywbeth â rhain – trio cael pwrpas iddyn nhw i drio gwneud mwy dros eu cymunedau a threfi.
“Mae angen rhoi mwy o gyfrifoldebau iddyn nhw,” meddai Sion Jones wedyn. “Ac os ydyn nhw ddim yn gwneud hynny, does dim pwynt eu cael nhw.
“Oherwydd, ar hyn o bryd, rydach chi’n sôn am beth ydi cyfrifoldebau cynghorau cymuned a thref? Wel, i ddweud y gwir, does ganddyn nhw ddim llawer o ddim byd o gwbwl!”
“Rhaid gwneud rhywbeth”
Mae’r cynghorydd wedi amlinellu’r hyn y hoffai weld yn newid ar ffurf saith argymhelliad, ac mae wedi anfon yr awgrymiadau yma i’r Ysgrifennydd tros faterion Cymunedau Lleol, Alun Davies, ym Mae Caerdydd.
Er bod Sion Jones yn cydnabod y byddai’r argymhellion yma yn arwain at drethdalwyr yn talu mwy mae’n ffyddiog y byddai eu gweithredu yn “creu mwy o ddiddordeb” ac yn galluogi cynghorau i “gyflawni mwy”.
“Dw i’n credu bod y saith argymhelliad yma – wnes i anfon ymlaen i’r gweinidog ddoe ac mae o wedi’i groesawu – yn beth doeth oherwydd, mae o’n rhoi pwrpas i’r cynghorau,” meddai.
Bydd Siôn Jones yn codi’r mater yng nghynhadledd y blaid Lafur ym mis Mawrth “i wthio pethau ymlaen” ac mae eisoes wedi ysgrifennu at Un Llais Cymru – y corff sydd yn gwarchod cynghorau cymuned a thref yng Nghymru.
Saith argymhelliad Sion Jones
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned o ran datblygu economi a thwristiaeth yn eu hardaloedd;
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned o ran datblygu iechyd a lles trigolion yn eu hardaloedd (hybu clybiau ffitrwydd ac ati);
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned o ran datblygu’r iaith Gymraeg. Argymell penodi “Pencampwyr yr iaith Gymraeg” o fewn cynghorau (unigolion sy’n hybu busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn gwarchod ansawdd y Gymraeg mewn ysgolion lleol – rôl wirfoddol byddai hyn);
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned o ran datblygu trafnidiaeth lleol. Argymell bod cynghorau cymuned yn cyfrannu tuag at cymhorthdal i wasanaethau bysus lleol mewn ardaloedd gwledig;
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned o rhan diogelwch cymunedol. Argymell “Pencampwr” tros y maes – tebyg i ‘Bencampwr y Gymraeg’;
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned wrth gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddoli;
- Rôl ehangach i gynghorau cymuned mewn penderfyniadau cynllunio.
Nid dyma’r tro cyntaf…
Nid dyma’r tro cyntaf i Sion Jones godi cwestiynau ynglyn ag addasrwydd Cyngor Cymuned Llanddeiniolen, y mae ef ei hun yn aelod ohono.
Mae wedi argymell yn y gorffennol y dylai pentrefi Bethel a Seion gael torri’n rhydd o gyngor cymuned mwyaf Cymru, a chael gwneud eu penderfyniadau eu hunain.