Mae Bwrdd Iechyd wedi datgelu eu bod wedi gorfod cysylltu â 41 o bobol ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod aelod o staff wedi edrych ar gofnodion cleifion mewn modd “amhriodol”.
Dydi’r unigolyn – gweinyddwr yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd – ddim yn gweithio i Fwrdd Iechyd Hywel Dda bellach, ac mae’r achos wedi’i gyfeirio at ymchwilydd annibynnol.
Yn ôl y bwrdd, roedd yr unigolyn wedi torri cyfrinachedd cleifion a gweithredu y tu allan i bolisïau’r gwasanaeth iechyd ar ddiogelu data.
Mae gwybodaeth a chefnogaeth wedi’u darparu i’r cleifion sydd wedi’u heffeithio, ac mae llinell gymorth arbenigol ar gael iddyn nhw.
Ymddiheuro
“Mae hwn yn fater yr ydym yn ei gymryd o ddifrif, ac rwy’i wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at bob claf a effeithiwyd i ymddiheuro am y camau a gymerwyd gan yr unigolyn hwn sy’n mynd yn groes i bolisïau a gweithdrefnau’r bwrdd iechyd,” meddai’r Prif Weithredwr, Steve Moore.
“Rydym yn gallu sicrhau bod ein hadolygiad yn dangos nad oes unrhyw newidiadau na diwygiadau wedi’u gwneud i gofnodion.
“Nid oes unrhyw dystiolaeth chwaith bod yr wybodaeth wedi cael ei defnyddio gan yr unigolyn at unrhyw ddiben heblaw i edrych arno.”