Mae pobol sydd wedi dioddef cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod eu plentyndod, yn wynebu risg uwch o lawer o ddioddef o salwch meddwl drwy gydol eu hoes.
Mae canfyddiadau astudiaeth genedlaethol newydd yn awgrymu fod oedolion sydd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o brofiadau negyddol, bron ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu hunan-niweidio o gymharu â’r rhai nad oedd wedi cael profiadau felly.
Mae canran y bobol sydd wedi cael profiadau plentyndod annifyr ac sydd wedi cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl, wedi cynyddu o 23% i 64%. O ran teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio roedd y cynnydd o 6% i 39%.
Ffrindiau a chymuned yn help
Yn gyffredinol, meddai’r astudiaeth ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, mae cael ffrindiau cefnogol, cyfleoedd i gyfrannu i fywyd y gymuned a bod â phobol i’w parchu, yn fwy na haneru lefel salwch meddwl o 29% i 14%, a nifer y rhai sydd erioed wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o 39% i 17%.
“Roedd tua un o bob wyth o oedolion yng Nghymru wedi dioddef lefelau uchel o brofiadau fel cam-drin, esgeulustod a thrais domestig yn ystod plentyndod,” meddai’r Athro Mark Bellis.
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos sut y gall plentyndod o’r fath effeithio ar iechyd meddwl unigolion drwy gydol eu bywydau.
“Fodd bynnag, mae ein canlyniadau hefyd yn awgrymu y gall cymunedau sy’n darparu cyfleoedd i gymryd rhan a datblygu sgiliau, trin plant yn deg a chynnig modelau rôl da helpu i ddiogelu unigolion rhag rhai o effeithiau niweidiol hirdymor cartrefi camdriniol.
“I ormod o bobol yng Nghymru, mae’r profiadau negyddol yn dal yn rhan o blentyndod ac yn faich y mae rhai ohonynt yn ei gario gyda hwy drwy gydol eu bywyd.”