Mae cwest wedi clywed nad oedd unrhyw un wedi adrodd am broblemau’n ymwneud â’r lifft yn nhafarn Walkabout yn Abertawe cyn marwolaeth barman yn 2014.
Bu farw Cyran Stewart, 20, ar ôl mynd yn sownd yn y lifft am 31 munud wrth gludo cadeiriau o un llawr i’r llall wrth lanhau ar ddiwedd noson i fyfyrwyr ar Chwefror 24.
Bu farw yn yr ysbyty bedwar diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Clywodd y cwest i’w farwolaeth fod nifer o aelodau staff wedi mynd yn sownd yn y lifft ac y bu’n rhaid eu rhyddhau droeon cyn y noson honno – ond nad oedd yr achosion hynny wedi cael eu hadrodd wrth swyddogion iechyd a diogelwch.
Iechyd a diogelwch
Ar y pryd, cwmni Intertain oedd yn berchen ar y dafarn Walkabout, ond mae cwmni arall wedi ei brynu ers hynny.
Mae cwmni Perry Scott Nash yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yr adeilad ac am ymchwilio i ddigwyddiadau yn yr adeilad.
Dywedodd un o reolwyr y cwmni fod modd cael mynediad i’r cwmni ar y we er mwyn adrodd am broblemau – ac y byddai achosion o fynd yn sownd mewn lifft yn un o brif flaenoriaethau’r cwmni.
Dywedodd fod ymchwiliad yn dilyn marwolaeth Cyran Stewart wedi dod i’r casgliad bod hyfforddiant wedi’i roi, bod asesiad risg wedi’i gwblhau a bod nam wedi digwydd nad oedd modd ei ragweld.
Roedd y cwest eisoes wedi clywed gan ddau oruchwyliwr safle oedd wedi mynd yn sownd yn y lifft ac a ddywedodd fod teclyn yn y lifft i sicrhau bod drysau mewnol ynghau cyn y gallai’r lifft symud, ond bod modd i unigolion oresgyn y teclyn hwnnw.
Ond dywedodd un ohonyn nhw nad oedd yn ymwybodol a oedd staff yn goresgyn y teclyn yn aml, a’i fod yn cynnal archwiliad cyson o’r lifft, ac y gallai ei oresgyn drydanu rhywun.
Ychwanegodd fod y lifft yn “hen iawn” a bod “angen ei foderneiddio”.
Mae’r cwest yn parhau.