Mae un person mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghastell-nedd nos Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Bant yr Heol yn y dref am oddeutu 11.20pm.
Cafodd dau o bobol anafiadau.
Mae’r heddlu’n awyddus i gael gwybod am gar Peugeot 206 du oedd yn yr ardal ar y pryd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.