Mae cyn-ficer Llandygai, y Parchedig J Aelwyn Roberts wedi marw’n 99 oed.
Roedd hefyd yn awdur llyfrau am ysbrydion, gan gynnwys Yr Anhygoel a Holy Ghostbuster ac fe gafodd nifer o’i lyfrau eu troi’n gyfresi i’r BBC ac S4C.
Roedd hefyd yn un o leisiau gwreiddiol y gyfres radio Wil Cwac Cwac yn y 1940au.
Dywedodd Deon Cadeirlan Bangor, y Tra Pharchedig Kathy Jones ei fod yn “unigryw” ac yn “llawn cariad, gwybodaeth a himwor diderfyn”.
Roedd ganddo fe chwech o blant, 23 o wyrion a phedwar o or-wyrion.