Mae gêm griced flynyddol wedi rhoi hwb o bron i £250,000 i economi Sir Conwy.
Cafodd Gêm Bencampwriaeth Sirol rhwng Morgannwg a Swydd Sussex ei chynnal fis Awst y llynedd yng Nghlwb Criced Bae Colwyn.
Ac yn ôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sef prif noddwyr y digwyddiad, fe gynhyrchodd y digwyddiad £248,000 ar gyfer yr ardal leol.
Cafodd y gêm ei chwarae dros gyfnod o dridiau, ac yn ôl ffigyrau, fe wnaeth fwy na 1,000 o gefnogwyr criced ddod i’w gweld ar y diwrnod cyntaf; bron i 900 ar yr ail ddiwrnod, a dros 700 ar y trydydd.
Fe wnaeth y gêm hefyd gynhyrchu incwm o tua £150,000 ar gyfer gwestai a thai gwely a brecwast lleol, ac maen nhw hefyd yn amcangyfrif bod cefnogwyr criced wedi gwario £98,000 ar fwyd, diod a siopa.
Sir Conwy’n “ffynnu”
Dywedodd y Cynghorydd Lousie Emery, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, ei bod hi’n sicr bod busnesau Llandrillo-yn-Rhos a’r ardal gyfagos “yn falch” o gael digwyddiadau blynyddol fel y criced i ddenu cymaint o ymwelwyr i’r ardal.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i wneud yn siŵr bod Sir Conwy’n parhau i ffynnu fel cyrchfan i dwristiaid”, meddai.
Fe fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n cynnal gêm debyg unwaith eto ar y cyd â Chlwb Criced Bae Colwyn ddiwedd mis Awst a dechrau mis Medi eleni, pan fydd Morgannwg yn herio Swydd Warwick.