Mae cyn-enillydd cyfres bry’-ar-y-wal Big Brother a brawd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, ymhlith aelodau tîm futsal Cymru i’r byddar, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop.
Mae futsal yn gêm sy’n debyg iawn i bêl-droed, a’r prif wahaniaeth yw bod futsal yn cael ei chwarae o dan do ar lawr caled, gyda phum chwaraewr yn aelod o bob tîm – yn hytrach na’r 11 arferol.
A dros gyfnod o ddau ddiwrnod ar Ionawr 19 a 20, fe fydd carfan futsal Cymru i’r byddar yn herio tair gwlad, sef Sweden, Bosnia-Hertsegofina a Thwrci, a hynny yng ngemau rhagbrawf Pencampwriaethau Ewrop sy’n cael eu cynnal ar Gampws Cyncoed, Prifysgol Met Caerdydd.
Capten y tîm fydd Sam Evans o Lanelli, a ddaeth i’r brig yn y rhaglen realaeth, Big Brother, yn 2013, ac mae Harry Allen, sef brawd y pêl droediwr Joe Allen, yn gobeithio chwarae wrth iddo ddisgwyl clywed cadarnhad ynglŷn â’i ffitrwydd, ar ôl derbyn anaf yn ddiweddar.
Chwarae o’r safon uchaf
Yn ôl rheolwr y tîm, Ashley Thomas, mae’r gemau sydd o’u blaenau yn mynd i fod yn rhai “anodd”, ond mae ganddo hyder yn ei dîm ifanc ac mae’n gobeithio’n fawr y bydd pobol yn dod i’w cefnogi.
“Rydyn ni eisiau denu cymaint o dyrfa i gefnogi’r tîm ag sy’n bosib,” meddai. “Mae yna lot o egni a dw i’n credu y bydd llawer o bobol yn cael eu synnu o weld y safon uchel hefyd.
“Dw i’n gobeithio y caiff blant byddar yng Nghymru arwyr newydd.”