Mae’r wefan hon ymysg nifer sydd wedi bod yn adrodd am y tri enw sy’n cael eu hystyried ar gyfer swydd Rheolwr tim pêl-droed Cymru.
Mae Craig Bellamy, Ryan Giggs ac Osian Roberts yn y ras i olynu Chris Coleman.
Ac mae golwg360 yn deall mai dim ond un ohonyn nhw – yr is-reolwr, Osian Roberts – fydd yn cael ei gyfweld yr wythnos hon. Fe fydd y ddau arall yn mynd o flaen y panel penodi yr wythnos nesaf.
Yn ôl trefn Cymdeithas Bêl-droed Cymru. fe fydd chwech aelod o’r Cyngor ynghyd â’r Prif Weithredwr, Jonathan Ford, yn cyfweld y tri ymgeisydd. Ond y chwe aelod fydd yn penderfynu ar y Rheolwr nesaf.
Roedd enw’r Cymro, Tony Pulis, wedi’i grybwyll hefyd, nes iddo gymryd yr awenau yn Middlesbrough. Ond, er bod Mark Hughes allan o waith ar ôl cael ei ddiswyddo gan Stoke, mae o wedi dweud yn blwmp ac yn blaen nad ydi o eisiau’r swydd.
Mae rheolwr y Vancouver Whitecaps yng Nghanada, Carl Robinson, wedi’i grybwyll hefyd fel rhywun a allai gael ei ystyried.