Nid oes gan Mark Hughes ddiddordeb mewn dychwelyd i rôl rheolwr Cymru.
Daw’r newyddion bod Hughes wedi cael ei ddiswyddo gan Stoke, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyfweld ymgeiswyr i olynu Chris Coleman yr wythnos hon.
Bu’r cyn-chwaraewr 54-mlwydd-oed yn rheoli Cymru am bum mlynedd o 1999-2004, ond byddai’n well ganddo ddychwelyd i reolaeth clwb naill ai yn yr Uwch Gynghrair neu dramor, meddai.
Mae cynorthwyydd Hughes, Mark Bowen, hefyd wedi gadael Stoke gyda Eddie Niedzwiecki yn cymryd yr awenau dros dro.
Bydd Ryan Giggs, Craig Bellamy ac Osian Roberts yn cael eu cyfweld am swydd rheolwr gwag Cymru yn ystod yr wythnos nesaf.
Fodd bynnag, nid yw’n glir os mai nhw yw’r unig enwau ar y rhestr fer. Mae’r gymdeithas bel-droed yn dweud eu bod yn gobeithio cael olynydd i Coleman – a adawodd ym mis Tachwedd 2017 – wrth y llyw mewn pryd, cyn cyhoeddi pa enwau ddaw allan o’r het ar gyfer cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd ar 24 Ionawr.