Mae Mandy Jones wedi cael ei gwneud yn Aelod Cynulliad Ukip ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill ddoe.

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cael ei hysbysu gan Swyddog Canlyniadau Rhanbarth Gogledd Cymru.

Roedd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol wedi rhoi gwybod i Elin Jones ddydd Mercher, 27 Rhagfyr bod Mandy Jones yn fodlon i wasanaethu.  O ganlyniad cafodd ei hethol fel Aelod y Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru ar y diwrnod hwnnw.

Mae’r Cynulliad yn gwneud trefniadau er mwyn i Mandy Jones dyngu llw.

Nathan Gill

Fe gyhoeddodd Nathan Gill ddydd Mercher ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru.

Roedd yr AC wedi bod yn gweithredu yn annibynnol ers gadael grŵp Ukip ym Mae Caerdydd ym mis Gorffennaf 2016, gan barhau’n Aelod Seneddol Ewropeaidd Ukip.

Fe fydd yn parhau’n ASE “er mwyn cael y cytundeb gorau i’r wlad” yn ystod proses Brexit, meddai.

Mewn datganiad dywedodd Nathan Gill ei fod wedi gwneud y penderfyniad “ers peth amser” a’i fod wedi cytuno i oedi cyn ymddiswyddo er mwyn rhoi amser i’w olynydd Mandy Jones, baratoi i gymryd ei le.