Mae’r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi ennyn ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol Twitter ar ôl awgrymu y bydd Cymru’n cael ei marchnata fel tywysogaeth.
Fe ddaeth ei sylwadau mewn derbyniad a gafodd ei drefnu gan Swyddfa Cymru yn Llundain, ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymbellhau oddi wrth y sylwadau, gan ddweud ei fod yn siarad fel unigolyn.
Yn ystod y derbyniad, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod Tywysog Cymru “yn frwd” o blaid y cynlluniau.
Yn swyddogol, dydi Cymru ddim wedi bod yn dywysogaeth ers yr unfed ganrif ar bymtheg, ac fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn 2008 fod Cymru’n “wlad ynddi ei hun”.
Ymhlith y gwleidyddion sydd wedi beirniadu’r sylwadau mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ac Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.
Beirniadaeth
Ond mae’r sylwadau wedi ennyn ymateb ehangach ar Twitter.
Yn ôl Geraint Tudur, mae’r sylwadau’n mynd â Chymru’n ei hôl i ddyddiau’r Ymherodraeth Brydeinig:
Tywysogaeth? TYWYSOGAETH? Wedi blynyddoedd o waith caled i adfer urddas i’n cenedl, the Empire strikes back! Methu credu!
— Geraint Tudur (@YsgCyff) December 20, 2017
Mae Bethan Jones-Evans yn ategu sylwadau Llywodraeth Cymru mai gwlad, ac nid tywysogaeth, yw Cymru:
Dwi’n eitha sicr na “Gwlad Gwlad” fyddai’n ei ganu dim “tywysogaeth” @wgmin_culture sôn am fychanu y wlad https://t.co/zDWebIgSXC
— Bethan Jones-Evans (@bethije) December 20, 2017
Mae Gruffudd Antur yn gofyn sut orau i ymateb i’r sylwadau:
Dwi ddim yn siŵr ai cyd-floeddio ‘Wylit, wylit, Lywelyn’ ydi’r ffordd orau o wrthwynebu rhywun sy’n awyddus i hyrwyddo Cymru fel tywysogaeth.
— Gruffudd Antur (@GruffuddAntur) December 19, 2017
Ac fe ddywed Osian Roberts fod y sylwadau’n “ein difrio a’n iselhau fel cenedl”…
.@ElisThomasD marchnata Cymru fel tywysogaeth be nesa?? Datganiad ffiwdal sy’n ein difrio a’n iselhau fel cenedl a sy’n anghydnaws a barn etholwyr DM
— Osian Roberts (@OsianLlRoberts) December 19, 2017