Fe allai gŵydd o’r enw Michael, Boris neu Jeremy addurno bwrdd Prif Weinidog Prydain, Theresa May ar Ddydd Nadolig eleni.

Dyna’r awgrym yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw wrth iddi ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Seneddol Llafur, Clive Efford.

Awgrymodd yr Aelod Seneddol dros Eltham y dylai’r aderyn Nadoligaidd gael yr enw Michael neu Boris, gan gyfeirio at Michael Gove a Boris Johnson, “er mwyn cael y pleser mwyaf o’i stwffio”.

“Y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Radio Times ei bod hi, ar Ddydd Nadolig, yn hoffi paratoi a choginio ei gŵydd ei hun,” meddai.

“Yn ysbryd y Nadolig, ga’ i awgrymu wrthi, er mwyn cael y pleser mwyaf o’r gwaith anniben o stwffio’i gŵydd, ei bod hi’n rhoi’r enw Michael neu Boris arni.”

Wrth ymateb i fonllef o gymeradwyaeth, awgrymodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow fod gan y Prif Weinidog “mwy o chwaeth na hynny”.

Ond wrth ateb cwestiwn Clive Efford, dywedodd Theresa May: “Ga i ddweud wrtho fy mod yn meddwl y bydd yn rhaid i mi osgoi’r demtasiwn i roi’r enw Jeremy ar yr ŵydd.”