Cymru sydd ar waelod y tabl o wledydd Prydain o ran gwerth cynnyrch a gwasanaethau (gross value added, GVA).
Yn 2016 roedd GVA y pen (£19,140) yn is yng Nghymru na’r ffigur ym mhob rhanbarth a phob un o wledydd Prydain – £26,339 yw’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig.
Er hynny, mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau hefyd yn dangos mai Cymru welodd y cynnydd uchaf yn GVA rhwng 2015 a 2016 – bu cynnydd o 1.9% yng Nghymru.
GVA y pen a’r cynnydd
· Cymru: £19,140 (1.9%)
· Lloegr £27,108 (1.6%)
· Yr Alban £24,800 (1.2%)
· Gogledd Iwerddon £19,997 (1.1%)
Rhagolygon yr IMF
Mae cyhoeddiad yr ystadegau yn cyd-daro â chyhoeddiad adolygiad blynyddol o economi’r Deyrnas Unedig gan gorff y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF).
Er i’r IMF ddweud ym mis Hydref eu bod yn disgwyl twf economaidd 1.7% y flwyddyn hon, bellach mae’r corff yn credu mai 1.6% yw’r ganran.
Mae hefyd disgwyl i gynnyrch domestig gros (GDP) arafu i 1.5% yn 2018, yn bennaf oherwydd ansicrwydd yn sgil Brexit.