Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi penderfynu bod yn rhaid i’r cyfnod trosglwyddo Brexit ddod i ben erbyn diwedd 2020.
Er i’r Prif Weinidog, Theresa May, awgrymu ym mis Medi y gallai’r cyfnod yma bara am hyd at ddwy flynedd, mae Ewrop bellach yn gytûn mai 21 mis fydd ei hyd.
Yn ystod y cyfnod trosglwyddo bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i gydymffurfio â rheolau Ewrop ond ni fydd yn medru cyfrannu at lunio’r rheolau yma.
Yn ôl prif drafodwr Ewrop, Michel Barnier, mi fydd gallu Prydain i fanteisio ar tua 750 o gytundebau rhyngwladol yn dod i ben ar Fawrth 2019 – ac o ganlyniad, trwy gydol y cyfnod trosglwyddo.
Ni fydd modd i’r Deyrnas Unedig lunio cytundebau masnach yn ystod y cyfnod yma, ond mi fydd modd cynnal trafodaethau cychwynnol.