Bydd £135m yn ychwanegol yn cael ei wario ar ffordd liniaru’r M4 gan fynd â chyfanswm y gost i £1.3bn.

Mae disgwyl hefyd i’r cynllun gael ei gwblhau dwy flynedd yn hwyrach na’r amserlen wreiddiol, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn darogan y bydd y ffordd newydd yn agor yn ei chyfanrwydd erbyn diwedd 2023.

Mae’r pris a’r amserlen newydd yn dod ar ôl i Lywodraeth Cymru orfod cyflwyno mesurau lliniaru er mwyn bodloni ABP – y gymdeithas sy’n cynrychioli porthladdoedd hynod.

Mae ABP wedi gwrthwynebu’r llwybr y mae’r Llywodraeth yn ei ffafrio – y llwybr du – i adeiladu’r ffordd, gan ei fod yn torri trwy’r dociau yng Nghasnewydd.

Dyma yw doc prysuraf Cymru – mae’n gysylltiedig â 3,000 o swyddi ac yn rhoi £186 miliwn y flwyddyn i’r economi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae eu mesurau newydd yn golygu na fydd y dociau yn cael “eu heffeithio’n negyddol” gan y prosiect, ac maen nhw’n gobeithio y bydd ABP yn fodlon â’r newidiadau.

Mae’r mesurau yn cynnwys adleoli cwmnïau yn y porthladd i adeiladau gerllaw a datblygu lle yn ne’r dociau ar gyfer llongau mwy o faint.

Pont newydd i Gasnewydd

Mae bwriad hefyd i adeiladu pont ar ben Afon Wysg, fel rhan o’r brif ffordd newydd, a fyddai’n 146 medr o uchder – ychydig yn uwch na’r ail Bont Hafren bresennol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu na fydd effaith niweidiol ar fywyd gwyllt yn yr afon o ganlyniad i’r bont.

Er gwaethaf y gost ychwanegol, mae’r Llywodraeth dweud mai’r llwybr du yw’r llwybr rhataf o hyd ar gyfer datblygu’r M4 ger Casnewydd.

Mae ymchwiliad cyhoeddus i’r cynllun yn parhau ac mae disgwyl i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad ar y mater erbyn diwedd yr haf.