Anghofiwch am y bwyd a’r anrhegion – teulu yw gwir ystyr y Nadolig i deuluoedd yng Nghymru.
Yn ôl arolwg gan elusen Oxfam, mae dau draean o Gymru yn credu mai treulio amser gyda’r teulu yw’r rhan bwysicaf o’r ŵyl.
Ac mae’n debyg bod hanner oedolion gwledydd Prydain yn dymuno treulio mwy o’u hamser â’u teuluoedd, a bod un o bob tri yn dibynnu arnyn nhw am gefnogaeth emosiynol.
“Rheolau cyfyngol”
Mae’r ffigyrau yma wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o ymgyrch yr elusen i dynnu sylw at “reolau cyfyngol” y Swyddfa Gartref o ran ail-uno teuluoedd.
Dan reolau’r adran, does dim modd i ffoaduriaid iau na 18 ddod â pherthynas hŷn gyda nhw i wledydd Prydain ar ôl cyrraedd yma.
Yn ôl yr elusen, mae hyn yn golygu y bydd “nifer fawr” o blant sydd wedi ffoi yn treulio Nadolig ar bennau ei hunain.
“Ar wahân”
“Dychmygwch petai eich teulu wedi eu caethiwo mewn gwlad a’u bywydau yn y fantol bob un diwrnod,” meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru.
“Byddai ffoaduriaid sy’n byw yng ngwledydd Prydain yn gwneud unrhyw beth i gael gweld eu teuluoedd eto ac mae ein rheolau annheg ni yn eu cadw ar wahân.”