Fe fydd hawl gan gartrefi i fynnu mynediad i fand llydan cyflym erbyn 2020 o dan reolau newydd i helpu mwy o bobol i gael mynediad i’r we.

Mae mynediad 1.1 miliwn o gartrefi i’r we yn arafach nag y dylai fod, ac fe fydd yn orfodol i gwmnïau ddarparu mynediad i’r we hyd at gost benodol.

Fe fydd y rheolau newydd yn mynnu bod gan bob cartref fynediad i’r we ar gyflymdra o 10MB yr eiliad – gan wrthod cynnig gwirfoddol gan BT i wella’r cyflymdra.

Dim ond trwy gyflwyno’r orfodaeth y byddai modd sicrhau mynediad digonol i’r we, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Yn ôl Ofcom, dyw 4% o gartrefi gwledydd Prydain ddim yn gallu cael mynediad digonol i’r we ar gyflymdra o 10MB yr eiliad.

Ac mae Prydain ar ei hôl hi o ran darparu ffibrau sy’n cyflymu mynediad i’r we.

‘Diolchgar’

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Karen Bradley, fod Llywodraeth Prydain yn “ddiolchgar” i BT am eu cynnig gwirfoddol, ond mai dim ond rheoleiddio fyddai’n llwyddo.

“Mae hyn i gyd yn rhan o’n gwaith o sicrhau bod isadeiledd telegyfathrebu Prydain yn addas ar gyfer y dyfodol ac y bydd yn parhau i ddarparu’r cyswllt sydd ei angen ar gwsmeriaid yn yr oes ddigidol.”

Dywedodd llefarydd ar ran BT eu bod yn “parchu penderfyniad y llywodraeth”.

Mae’r cyhoeddiad wedi’i groesawu gan gwmni Which? hefyd, ac maen nhw wedi galw am “weithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y cyflymdra sydd wedi’i addo erbyn 2020” ac am “fonitro’r rhaglen er mwyn sicrhau y gall gadw i fyny gyda thechnoleg sy’n newid”.