Mae Ieuan Wyn Jones wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’i waith yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar Barc Gwyddoniaeth Menai yn y gwanwyn, ond fydd o ddim yn troi ei gefn yn llwyr ar y prosiect i ddenu cwmnïau i’r ynys.

Fe fydd cyn-arweinydd Plaid Cymru, a chyn Aelod Seneddol a Chynulliad Ynys Môn yn parhau’n gyfarwyddwr ar gwmni M-SParc.

Mae wedi bod yn gyfrifol am arwain y prosiect o’i sefydlu yn 2013 yn dilyn buddsoddiad o £10m gan Lywodraeth Cymru. £21.8m yw cyfanswm y buddsoddiad yn y parc ger pentre’r Gaerwen yn ystod y cyfnod hwnnw.

11 o denantiaid

Mae yna 11 o gwmnïau bach a chanolig wedi rhoi eu henwau i lawr i symud i mewn i adeilad newydd sbon y Parc ger pentref y Gaerwen pan fydd yn agor ei ddrysau yn y gwanwyn.

Fe fydd traean o ofod yr adeilad yn barod erbyn hynny, ac ymhlith y tenantiaid mae:

  • Geosho o Gaernarfon, sy’n datblygu meddalwedd mapio tirwedd symudol;
  • Ambionics o Borthaethwy, sy’n creu breichiau prosthetig i blant;
  • Papertrail o Lanfairfechan sy’n datblygu systemau trywydd archwilio electronig;
  • Diagnostig, cwmni o fewn Prifysgol Bangor sy’n datblygu dulliau newydd o brofiad am y diciâu mewn anifeiliaid a phobol;
  • HET Creadigol o Fôn sy’n cynnig gwasanaeth marchnata, datblygu apiau a dylunio gwefannau;
  • Ymhlith y cwmnïau o’r tu allan i’r ardal mae FarmLab Diagnostic o Weriniaeth Iwerddon;
  • Y tenant mwyaf yw Loyalty Logistics, sy’n cyflogi dros 50 o aelodau staff ym Mangor yn y diwydiant ceir.

Mae’r rhan fwya’r cwmnïau eisoes yn cydweithio â Phrifysgol Bangor ar brosiectau ymchwil a datblygu, neu’n cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr y brifysgol.

Ar amser ac o fewn y gyllideb

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Ieuan Wyn Jones fod y “prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb”.

“Fe’i gwnes hi’n glir ar y dechrau  y byddwn yn arwain y prosiect trwy ei gyfnod datblygu, ac mae hynny nawr bron wedi’i gyflawni,” meddai. “Ryden ni wedi darparu’r cyllid, y safle yn Gaerwen, ac adeiladu’r adeilad cyntaf.

“Mae cael adeilad yn bwysig, ond yr hyn sy’n bwysicach fyth yw cael busnesau arloesol i feddiannu’r gofod, buddsoddi mewn cynhyrchion newydd a chreu swyddi o safon.

“Rwy’n hynod falch ein bod wedi curo’r targed a osodwyd ar gyfer tenantiaid cynnar, gyda thraean o’r adeilad yn cael ei feddiannu o’r diwrnod cyntaf.

“O ystyried ein bod bellach yn symud i ochr weithredol pethau, mae’n iawn fy mod yn trosglwyddo’r awenau i rywun i gymryd y prosiect ymlaen at ei gyfnod nesaf.”

 

“Rwyf am weld economi Gogledd Orllewin Cymru yn tyfu a chreu swyddi newydd, a bydd y Parc Gwyddoniaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wireddu’r uchelgais hwnnw.”