Cân gan y grŵp Adwaith o Gaerfyrddin sydd wedi dod i’r brig yn ‘Siart Amgen’ Radio Cymru neithiwr.
Cafodd y gân Lipstick Coch gan Hollie Singer, Gwenllian Anthony a Heledd Owen ei chwarae’n uchafbwynt i raglen Rhys Mwyn neithiwr yn dethol deg o ganeuon ‘amgen’ gorau’r Gymraeg.
Ac mae tipyn o ganmol wedi bod i’r siart ar y cyfryngau cymdeithasol gyda phobol yn canmol yr amrywiaeth.
Yn ôl y DJ Gareth Potter ar Twitter – “mae’r rhestr yma mor gryf – cymaint o dalent sy’n neud pethau gwreiddiol a diddorol yn Gymraeg #siartamgen2017”.
Ac mae cwmni recordio Sain yn ychwanegu fod y siart yn dangos “pa mor wreiddiol a blaengar oedd ac ydi’r sin gerddorol yng Nghymru – gwlad fach yn cyflawni pethau mawr.”
Siart Amgen 2017
- Lipstick Coch – Adwaith
- Ugain i Un – Datblygu
- Merthyr – Eirin Peryglus
- Aros o Gwmpas – Omaloma
- Popeth ar y record ma wedi cael ei ddwyn – Llwybr Llaethog
- Datgysylltu – Los Blancos
- Y Ddawns – Ani Glass
- Wyf Gymro – Jecsyn Ffeif
- 5.99 – Anweledig
- Llosgwch y Llosgach – Tystion