Mi fydd yr opera sebon boblogaidd, Pobol y Cwm, yn cael ei darlledu hanner awr yn gynt am 7:30yh bob nos Fawrth a nos Iau yn y flwyddyn newydd.
Mae S4C hefyd wedi cadarnhau y bydd slot Rownd a Rownd yn symud awr yn gynt ar y nosweithiau hynny i 6:30yh.
Bwriad hyn, yn ôl y darlledwr, yw rhyddhau lle i ddarlledu rhaglenni awr o hyd rhwng 8yh a 9yh bob nos Fawrth a nos Iau.
Rhaglenni awr o hyd
Hyd yn hyn mae S4C wedi cadarnhau y bydd y gyfres Priodas Pum Mil yn un o’r rhaglenni awr fydd yn cael eu darlledu yn y cyfnod hwn.
Mae’r gyfres arall yn dilyn y naturiaethwr Iolo Williams – Deifio yn y Barrier Reef a bwriad hyn, yn ôl Amanda Rees, yw “dod â mwy o liw i oriau brig S4C.”
Mae Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C yn ychwanegu fod angen newid amserlen rhaglenni “o dro i dro er mwyn ateb anghenion y gwylwyr.”
“Mae cynulleidfa deuluol ar gael i wylio am 8.00 nad ydym yn eu cyrraedd i’r eithaf ar hyn bryd,” meddai.
“Teimlwn fod yr amserlen newydd hon ar gyfer nosweithiau Mawrth ac Iau yn gyfle i ddal y gynulleidfa deuluol honno yn ogystal â darparu mwy o amrywiaeth i wylwyr eraill, a’r Flwyddyn Newydd yw’r amser cywir i’w lansio.”
Mi fydd y newid yn dechrau o’r 2 Ionawr 2018, gyda rhaglen Pobol y Cwm yn parhau i gael ei darlledu am 8yh ar nos Lun, nos Fercher a nos Wener.
Manylion yr amserlen
Nos Fawrth a Nos Iau:
6.30 Rownd a Rownd
7.00 Heno
7.30 Pobol y Cwm
8.00 Rhaglen awr o hyd
9.00 Newyddion 9