Mae disgwyl i tua 170 o bobol dderbyn brechiad hepatitis A yn ardal Sir Ddinbych a de Gwynedd yn dilyn achosion o’r haint mewn ysgol gynradd.

Mae saith achos wedi eu cadarnhau yn yr ardal, ac mae tri o’r rhai sydd wedi’i heintio yn blant sy’n mynd i Ysgol Caer Drewyn yng Nghorwen.

Fe fydd sesiwn brechu yn cael ei gynnal yn yr ysgol ar Ragfyr 8, gydag aelodau staff, disgyblion, a, brodyr a chwiorydd disgyblion, yn cymryd rhan.

Dydy hi ddim yn glir o ble daeth yr haint, ond yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru doedd yr haint ddim wedi dechrau yn yr ysgol.

“Symptomau amhleserus”

“Mae Hepatitis A yn haint feirws, sydd yn parhau am gyfnod byr fel arfer, sydd â symptomau amhleserus ond yn anaml y mae’n ddifrifol,” meddai’r Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Christopher Johnson.

“Golchi dwylo’n dda ar ôl bod i’r tŷ bach a chyn paratoi neu fwyta bwyd yw’r ffordd orau o atal y firws rhag lledaenu.

“Mae plant yn gallu trosglwyddo’r firws i bobl eraill heb gael unrhyw symptomau felly rydym yn atgoffa rhieni i annog golchi dwylo’n dda bob amser.”