Mae o leiaf dwy Gymraes wedi’u henwebu ar restr fer ‘rhai i’w gwylio’ gan y gystadleuaeth Funny Women sy’n cynorthwyo merched yn y byd comedi ym Mhrydain.
Mae’r ddwy yn cynnwys Sarah Breese ac Esyllt Sears, a’r gig hwn fis diwethaf oedd y cyntaf i Esyllt Sears, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, berfformio ynddo.
“Mi oedd e’n bach o arbrawf i ddweud y gwir, ond mae cael rhywbeth fel hyn [cystadleuaeth Funny Women] yn rhoi gymaint o hyder i rywun,” meddai wrth golwg360.
Dynion yn ‘dominyddu’
Mae Esyllt Sears yn sôn fod angen mwy o gyfleoedd tebyg i annog merched i droi at y byd comedi.
“Y broblem fwyaf dw i’n meddwl yw cael yr amser,” meddai’r fam i ddau o blant gan esbonio y byddai’n ddelfrydol i berfformio gig o leiaf unwaith yr wythnos.
“Ond mae hynna’n profi’n anodd, a dw i’n meddwl fod hynna wedi arwain at sefyllfa sy’n cael ei dominyddu gan ddynion.”
‘Chwilio ei llais’
Mi fu Esyllt Sears, sydd bellach yn byw yn y Bont-faen ac yn gweithio yn y byd cysylltiadau cyhoeddus, yn perfformio yn y gystadleuaeth yn Wolverhampton yr hydref hwn.
Mae’n esbonio ei bod yn parhau i “chwilio ei llais” ar hyn o bryd, ac felly’n teimlo’n fwy cyfforddus yn perfformio yn y Saesneg am fod hynny’n fwy o “act” iddi hi na pherfformio yn ei mamiaith.
Ond mae’n ychwanegu ei bod yn awyddus i berfformio yn y Gymraeg yn y dyfodol a’i bod yn mwynhau ysgrifennu deunydd newydd pan fo’r amser yn caniatáu.
“Dw i bendant yn ystyried gwneud mwy o gigs, a dw i’n gobeithio trio’r gystadleuaeth hon y flwyddyn nesaf hefyd.”
“Mae’r rhestr hyn yn cynrychioli ystod anhygoel o dalent amrywiol a charismatig wedi’u dethol o fwy na 400 o berfformwyr y gwnaethom eu gweld yn fyw yn ystod y rhagbrofion,” meddai llefarydd ar ran Funny Women.