Fe fydd gwaith ymchwil y gwyddonydd Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe yn cael ei gynnwys yn rhaglen Blue Planet y BBC heno.
Cafodd ‘Project Seagrass’ ei sefydlu gan y tîm yn Abertawe, sydd hefyd yn cynnwys y myfyrwyr Benjamin Jones a Richard Lilley, ac fe gawson nhw gais gan y rhaglen yn 2014 i gynnig syniadau.
Fe gydweithiodd y tîm â Phrifysgol Caerdydd i gyflwyno’u gwaith ymchwil ar wellt y gamlas (seagrass) ac yn benodol y berthynas hela rhwng grwperiaid ac octopysau ar gyfer rhaglen arall eisoes.
Dywedodd Dr Richard Unsworth: “Mae’r bennod ar foroedd gwyrdd yn ein helpu i werthfawrogi rhyfeddod a phwysigrwydd planhigion morol megis gwellt y gamlas.
“Mae’r ecosystemau bioamrywiol hyn o bwys sylfaenol i’r blaned ddynol ond eto maen nhw’n parhau dan fygythiad o amgylch y byd.”
Prosiect Seagrass
Elusen amgylcheddol yw Project Seagrass, sy’n codi ymwybyddiaeth o ecosystemau’r môr drwy addysgu, dylanwadu, ymchwilio a gweithredu.
Ei nod yw troi ymchwil yn weithgarwch cadwraeth effeithiol drwy waith cymunedol o amgylch y byd.
Bygythiad
Ychwanegodd Dr Richard Unsworth: “Mae gwellt y gamlas yn blanhigion sy’n blodeuo ac sy’n byw mewn ardaloedd bas sydd wedi’u cysgodi ar hyd ein harfordiroedd.
“Mae’r planhigion sensitif hyn yn wahanol i wymon a dail gwyrdd llachar. Mae’r dail hyn yn ffurfio dolydd mawr a dwys o dan y môr.
“Yn debyg i riffiau cwrel a choedwigoedd glaw y trofannau, mae’r gerddi tanddwr hyn yn llawn bywyd ac yn gartref i nifer o anifeiliaid o wahanol siapiau, lliwiau a meintiau.
“Fodd bynnag, fel coedwigoedd glaw a riffiau cwrel, mae’r gerddi tanddwr anhygoel hyn o dan fygythiad. Yn fyd-eang, mae amcangyfrifon yn awgrymu ein bod ni’n colli ardal o wellt y gamlas o faint dau gae pêl-droed bob awr.
“Mae amddiffyn ac adfer yr hyn sy’n weddill yn hanfodol.”