Mae’r heddlu’n rhybuddio am beryglon y farchnad ddu ar ôl cipio gwerth miloedd o bunnau o nwyddau ffug a chyffuriau mewn cyrch yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe fu dros 40 o swyddogion o Heddlu De Cymru, adran safonau masnach y cyngor lleol ac asiantaethau eraill yn cymryd rhan yng Nghyrch Grey Jupiter pryd y cafodd tri dyn eu harestio.
Mae’n heddlu’n disgrifio eu darganfyddiad o watsus, bagiau llaw, dillad ac offer ffug mewn tŷ yn Pendre, Pen-y-bont, fel ‘ogof Aladin’.
‘Gwerth miloedd’
Meddai’r Ditectif Arolygydd Dean Taylor:
“Fe wnaeth y cyrch yr wythnos yma arwain at gipio nwyddau ffug a fyddai wedi newid dwylo am filoedd o bunnau yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.
“Rydym wedi darganfod gweithgaredd troseddol soffistigedig iawn sy’n gallu cynhyrchu elw mawr.
“Dylai pobl feddwl ddwywaith cyn ildio i demtasiwn o fargen sy’n rhy dda i fod yn wir.
“Mae’n debyg fod yr eitemau trydanol rydym wedi eu cipio heb gael eu cadarnhau fel rhai diogel. Felly yn ogystal â bod yn wastraff arian – os nad ydyn nhw’n gweithio – maen nhw hefyd yn achosi risg o dân neu sioc drydanol.”
Yn ogystal â’r nwyddau ffug a’r cyffuriau steroid, cafodd tua £5,000 mewn arian parod ac asedau gan gynnwys car Audi R8 sy’n costio £80,000 yn newydd eu cipio o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.