Fe fydd gwleidyddion o Ewrop yn cyfarfod yng Nghymru heddiw (Tachwedd 16) er mwyn trafod Brexit, a dyfodol y berthynas rhwng Prydain a’r cyfandir.
Bydd cynhadledd ‘Cydweithio Ewropeaidd ar ôl Brexit’ yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac yn croesawu dros ugain o gynrychiolwyr o wledydd gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a Sweden.
Yn ystod y digwyddiad mae disgwyl i’r cynrychiolwyr ynghyd â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, lofnodi ‘Datganiad Caerdydd’, sef ymrwymiad i gynnal perthynas Ewrop a Phrydain wedi Brexit.
“Perthynas gadarn”
“Mae Cymru’n parhau i fod yn wlad agored, groesawgar ar lwyfan y byd, ac ni fydd Brexit yn newid hynny,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
“Er bod Brexit yn mynd i effeithio ar bob gwlad a rhanbarth yn Ewrop, mae’r digwyddiad hwn a’n datganiad ar y cyd yn dangos na ddylai fod yn rhwystr i’r berthynas gadarn, gref sy’n fanteisiol i bob un ohonon ni.”