Y prifardd Idris Reynolds sydd wedi cipio prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn, gyda’i lyfr ffeithiol greadigol, Cofio Dic, sy’n gasgliad o’i atgofion am y bardd a’i ffrind, Dic Jones.
Alys Conran enillodd y brif wobr Saesneg am ei llyfr, Pigeon, nofel unigryw sy’n cynnwys llawer o Gymraeg ac sydd wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg dan y teitl Pijin, gan Sian Northey.
Mae’r ddau wedi ennill gwobr o £4,000 yr un, yn ogystal â thlysau wedi’u creu gan yr artist Angharad Pearce Jones mewn seremoni yng Nghaerdydd heno.
Guto Dafydd a gipiodd Wobr Barn y Bobol golwg360 am ei nofel Ymbelydredd, a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016.
Enillwyr y categorïau .. yn Gymraeg
Ffeithiol greadigol: Cofio Dic, Idris Reynolds
Ffuglen: Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis
Barddoniaeth: Bylchau gan Aneirin Karadog
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni oedd Catrin Beard, Mari George ac Eirian James.
.. ac yn Saesneg
Yn y categorïau Saesneg, llwyddodd Pigeon i ennill y goron driphlyg wrth gipio’r category ffuglen a People’s Choice Award Wales Arts Review hefyd.
Peter Lord enillodd y llyfr Ffeithiol Greadigol orau am The Tradition, ei gyfrol am gelf Cymru; a What Possessed Me gan John Freeman oedd enillydd y categori Barddoniaeth.
Llenyddiaeth Cymru “wedi ymrwymo” i wobr Llyfr y Flwyddyn
Cafodd y seremoni yn y Tramshed, Caerdydd ei chynnal yn hwyrach na’r arfer eleni yn dilyn ansicrwydd ynghylch dyfodol y wobr.
Roedd siopau llyfrau a gweisg yn feirniadol o’r amseriad, gan ddweud bod y llyfrau buddugol – llyfrau 2016 – yn hen ac y bydden nhw’n cystadlu â gwerthiant llyfrau’r Nadolig eleni.
Ond mae Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, wedi dweud ei bod yn awyddus i gynnal y wobr yn ei slot arferol dros yr haf y flwyddyn nesa’ ar ôl “gwrando ar gyngor y sector.”
“Gobeithio mai dyna fydd yn digwydd gyda’r wobr y flwyddyn nesaf hefyd,” meddai wrth golwg360.
Ond, wedi arolwg dan gadeiryddiaeth Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, does dim sicrwydd mai Llenyddiaeth Cymru fydd yn parhau i gynnal y wobr.
Doedd Lleucu Siencyn ddim yn gwybod un ffordd na’r llall ond fe ddywedodd fod Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i’r wobr.