Mae Cadeirydd S4C wedi disgrifio’r bartneriaeth newydd rhwng y sianel a BBC fel cyfle am “sicrwydd a sefydlogrwydd.”
Yn rhan o’r cytundeb newydd – Cytundeb Partneriaeth, Ariannu ac Atebolrwydd – mae’r ddau ddarlledwr yn ymrwymo i “weithio gyda’i gilydd yn greadigol er budd gwylwyr a’r gynulleidfa Gymraeg.”
Mi fydd y cytundeb newydd yn parhau tan ddiwedd cyfnod Siarter y BBC, sef 2028 ac yn gwarantu’r trefniant i gynnal lle S4C ar iplayer gyda chyllid S4C o’r ffi drwydded yn parhau’n sefydlog tan 2022.
Mae’r cytundeb hefyd yn golygu newid o Ymddiriedolaeth i Fwrdd Unedol, ac felly ni fydd gan y BBC gynrychiolydd ar Fwrdd Awdurdod S4C, lle mae Elan Closs Stephens wedi bod yn gynrychiolydd yn ddiweddar.
‘Traddodiad hir o gydweithio’
“Mae’r cytundeb newydd yma’n dangos yn glir beth fydd natur y berthynas rhwng S4C a’r BBC dros gyfnod y Siarter newydd,” meddai Huw Jones, Cadeirydd S4C.
“Mae’n rhoi elfen gref o sicrwydd a sefydlogrwydd i S4C dros y cyfnod hwn, wrth ganiatáu cyfle i adolygu’r elfennau craidd ar ôl 5 mlynedd, ac mae’n gosod her i’r ddau sefydliad adnabod cyfleoedd i gydweithio’n adeiladol er budd y gwylwyr,” meddai.
“Mae’n adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb Gweithredu diwethaf ac ar draddodiad hir o gydweithio a chyd-wasanaethu cynulleidfaoedd. Mae unwaith eto yn cadarnhau annibyniaeth S4C fel corff ac fel gwasanaeth.”
‘Sylfaen gadarn’
Mae Cadeirydd y BBC, David Clementi, hefyd wedi croesawu’r cytundeb fydd yn “cryfhau’r bartneriaeth gwasanaeth darlledu cyhoeddus hirdymor sy’n bodoli eisoes rhwng y BBC ac S4C,”
“Mae’n cydnabod rôl hanfodol y ddau sefydliad o ran darlledu Cymraeg – ac mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio parhaus ar adeg pan fo newidiadau sylweddol ar droed yn y cyfryngau.”
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer darlledu yng Nghymru, ac rydw i’n hyderus y bydd parhau i weithio’n agos gydag S4C yn arwain at ganlyniadau creadigol, gan ddatblygu llawer o’r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd yn y blynyddoedd diwethaf.
‘Perygl mawr’
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r cytundeb newydd a’i alw’n “berygl mawr” i annibyniaeth S4C.
“Ers bron i wyth mlynedd bellach mae’r BBC wedi bod yn gweithio law yn llaw gyda’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i geisio traflyncu S4C,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y Gymdeithas mewn datganiad.
“Maen nhw eisiau adeiladu ei ymerodraeth yn bellach er eu bod yn dominyddu’r cyfryngau yng Nghymru bron â bod yn gyfan gwbl yn barod.”
“Mae S4C i fod i symud i Gaerfyrddin, dylid gwneud hynny’n gyfan gwbl. Dylid canslo’r cytundeb ‘partneriaeth’ bondigrybwyll hwn a’r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o geisio atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg,” ychwanegodd.
Mae hefyd yn nodi fod y cytundeb yn cyd-daro ag adolygiad Llywodraeth Prydain o S4C gan ychwanegu fod angen datganoli darlledu i Gymru.