Fe fydd y band ‘Adwaith’ o Gaerfyrddin yn perfformio mewn gŵyl yn yr Eidal ddiwedd y mis.
Daeth cyhoeddiad gan gwmni recordiau Libertino y bydd y triawd o ferched – Hollie, Gwenllian a Heledd – yn ymddangos yng ngŵyl SUNS Europe rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 2.
Byddan nhw’n perfformio yn y gig agoriadol yng nghlwb roc 60 yn Udin ynghyd â La Basu o Bilbao a Tiny Feet o Lydaw.
Ar Ragfyr 1, fe fydd gan Gruff Rhys raglen radio ar Radio Onde Furlane.
Ar Ragfyr 2, fe fydd ei ffilm Separado, sy’n olrhain ei daith i Batagonia, yn cael ei dangos, ac fe fydd e’n ymddangos ar banel traws-Ewropeaidd.
Y digwyddiad
Gŵyl celfyddydau perfformio Ewropeaidd mewn Ieithoedd Lleiafrifol yw SUNS Europe, ac mae’n cael ei chynnal yn Teatro Nuovo Giovanni da Udine.
Yn ôl y trefnwyr, Radio Onde Furlane, dyma’r “ŵyl Ewropeaidd bwysicaf i’r celfyddydau perfformio mewn ieithoedd lleiafrifol”.
Roedd y gwahoddiad i berfformio’n agored i gerddorion, gwneuthurwyr ffilmiau, awduron ac actorion.
Dyma fydd y trydydd tro i’r digwyddiad gael ei gynnal, ac fe fydd perfformwyr yno o Gymru, Gwlad y Basg, Grisons, Llydaw, Galicia, Sachsen, Occitania, Sapmi, Iwerddon, Sardinia a Buryatia ger Mongolia.
Mae tocynnau i’r digwyddiad ar gael yn rhad ac am ddim.