Fe fydd aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru’n troi at Landudno ar gyfer eu heisteddfod flynyddol ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 18).
Ffederasiwn Eryri sy’n cynnal yr ŵyl eleni, a dau o’u plith sydd wedi creu cadair a choron yr Eisteddfod, a gafodd eu cyflwyno i Bethan Williams, cadeirydd pwyllgor yr Eisteddfod, ddoe.
Gethin Pyrs, saer coed ac aelod o glwb Ysbyty Ifan, sydd wedi cynllunio a gwneud y gadair o dderw lleol, a Lowri Wyn, cyn-aelod o’r Ro-wen, a pherchenog siop emwaith yng Nghonwy a wnaeth y goron. Arian a gwlân defaid y mae’n eu cadw ar ei fferm yw deunyddiau’r goron.
“Mae cael dau ddarn mor gywrain wedi eu gwneud gan ein haelodau ni ein hunain yn fraint,” meddai Bethan Wyn Williams wrth eu derbyn.
“Rydan ni’n ddiolchgar tu hwnt i ymddiriedolwyr NFU Canolbarth Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri am eu cefnogaeth parhaol i’r Mudiad yma yn Eryri ac am gynnig eu nawdd cyn i ni hyd yn oed feddwl am noddwyr.”
Mae Ffederasiwn Eryri o’r mudiad yn cynnwys 11 clwb yng ngogledd Gwynedd a dyffryn Conwy sydd â 400 o aelodau rhwng 10 a 26, ac mae ei holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe fydd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru’n cychwyn am 10 fore Sadwrn nesaf yn Venue Cymru, Llandudno, a’r seremoni Gadeirio a Choroni am 6.30 yr hwyr. Bydd y gadair yn cael ei chyflwyno am y cerddi gorau, a’r goron yn cael ei rhoi i’r aelod fydd wedi ysgrifennu’r rhyddiaith orau, gyda’r ddwy gystadleuaeth wedi eu seilio ar y thema Trysor neu Gyfrinach.