Bydd hoff ganeuon Nadolig y genedl yn cael eu datgelu mewn rhaglen radio arbennig ym mis Ragfyr.

Gan ddilyn fformat 40 Mawr Radio Cymru mi fydd y cyflwynwyr, Richard Rees a Lisa Gwilym, yn datgelu 20 cân Nadoligaidd ar raglen radio Siart Fawr y ‘Dolig.

Y cyhoedd fydd yn dewis yr ugain cân yma, ac mi fydd modd i bawb gynnig hyd at dair cân fel rhan o’u pleidlais.

Mae modd pleidleisio hyd at Ragfyr 18, ac mae hefyd modd pleidleisio yn y digwyddiadau canlynol: Rhyng-gol, Ffair Aeaf, Gŵyl Cerdd Dant a’r Steddfod Ffermwyr Ifanc.

Bydd Siart Fawr y ‘Dolig yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru ar Ragfyr 22.