Mae dynes oedrannus wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Abertawe bore dydd Mercher..
Cafodd y ddynes 85 oed ei chludo i Ysbyty Treforys ond bu farw o ganlyniad i’w hanafiadau.
Doedd gyrrwr y car ddim wedi stopio ar ôl taro’r ddynes, ond mae dyn 53 oed bellach wedi cael ei arestio.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Bon-y-maen, i’r dwyrain o Abertawe ar ffordd Caernarfon, am tua 10:10yb.