Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymateb i adroddiad sy’n dangos bod prinder staff wedi effeithio ar y gwasanaeth yn ystod yr haf.

Maen nhw bellach yn recriwtio mwy na digon o staff er mwyn osgoi problemau tebyg yn y dyfodol, medden nhw.

Yn ôl adroddiadau gan y BBC, roedd problemau wedi bod ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn ystod yr haf a rhai ambiwlansys wedi aros yn segur oherwydd prinder staff technegol neu barafeddygol.

Roedd ymholiad rhyddid gwybodaeth wedi dangos bod saith ambiwlans wedi bod yn segur ar un adeg yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru a chwech yn ardal Bwrdd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain.

Roedd camau wedi eu cymryd i sicrhau na fyddai problemau tebyg yn codi eto, meddai Cyfarwyddwr Gweithredoedd y Gwasanaeth Ambiwlans, Richard Lee, wrth Radio Wales.