Mae Aelod Seneddol Llafur wedi cael ei wahardd o’r blaid dros honiadau am ei ymddygiad tuag at ymgyrchydd ifanc.

Mae Kelvin Hopkins, 76, wedi’i wahardd tra bod ymchwiliad yn parhau i honiadau ei fod wedi anfon negeseuon testun awgrymog ac wedi cyffwrdd y ferch mewn ffordd amhriodol.

Ac fe ddaeth yn amlwg fod y gwyn wedi cael ei gwneud o’r blaen, fod AS De Luton wedi cael cerydd ond ei fod yn ddiweddarach wedi cael ei ddyrchafu yn aelod o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn.

Yn ôl papur newyddion y Telegraph, fe wnaeth Ava Etemadzadeh, 27, gwyno i chwip y blaid am ymddygiad yr Aelod Seneddol tua thair blynedd yn ôl.

Roedd  wedi cael ei holi a’i geryddu ar y pryd gan un o chwipiaid y blaid ond fe gododd y cwynion eto yn 2016 ar ôl iddo ddod yn aelod o gabinet cysgodol y blaid.

Mae’n debyg na chafodd y cwynion eu trafod ymhellach bryd hynny oherwydd mai’r un oedd yr wybodaeth.

Ond mae un AS Llafur amlwg, Jess Phillips, wedi condemnio’r penderfyniad i roi swydd i Kelvin Hopkins, er mai “coc-yp nid cynllwyn” oedd hynny, meddai.