Gorsaf niwclear Wylfa
Mae grŵp sy’n ymgyrchu yn erbyn codi gorsaf niwclear newydd yn ar Ynys Mon wedi cwyno i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd llefrydd ar ran PAWB, pobol yn erbyn Wlfa B, ei fod yn “destun pryder gweld y diwydiant niwclear yn cael llwyfan yn yr Eisteddfod”.

Maen nhw wedi anfon llythyr at drefnwyr yr Eisteddfod gan ddweud darlith wyddonol a draddodwyd ar y maes gan Gyfarwyddwr rhaglen Ynys Ynni Môn yn “ddarllediad gwleidyddol, unochrog ac anwyddonol”.

“Roedd aelodau PAWB, Pobl Atal Wylfa B yn bresennol ar ddydd Mercher yr Eisteddfod yn y ddarlith ‘wyddoniaeth’ a draddodwyd gan Sasha Davies ar ‘Ynys Ynni, Pwerdy Gogledd Cymru – Dyfodol Carbon Isel’,” meddai Dylan Morgan, o PAWB yn ei lythyr wrth yr Eisteddfod.

“Noddwyd y ddarlith yn rhannol gan Magnox (Trawsfynydd) a’r Sefydliad Niwclear. Testun pryder i ni yw gweld y diwydiant niwclear yn prynu llwyfan yn yr Eisteddfod.”

Yn ôl PAWB, yr hyn gafwyd gan Sasha Davies oedd “darllediad gwleidyddol unochrog ac anwyddonol ar bosibiliadau’r prosiect enfawr hwn”.

Mae’n dweud na chrybwyllwyd y ffaith y byddai’r adweithyddion “yn defnyddio tanwydd iwraniwm cyfoethocach na’r tanwydd a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn adweithyddion niwclear Prydeinig”.

Mae hefyd yn dweud “na soniwyd am drychineb niwclear Fukushima [yn dilyn tsunami Japan] a’i effeithiau difrifol ar gymdeithas, economi, a iechyd dynol ac amgylcheddol”.

“Nid oedd cydnabyddiaeth o gwbl i ddylanwad negyddol gorsaf bresennol y Wylfa ar y Gymraeg yng ngogledd a dwyrain Môn.

“Dangosodd Adolygiad Estyn ar Ysgol Gynradd Cemaes yn 2006 mai 4% yn unig o’r plant a ddeuai o gartrefi Cymraeg,” meddai yn y llythyr.

“Sonnir ymhellach y byddai angen codi nifer sylweddol o dai newydd ar gyfer y gweithwyr.

“Oni ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol fel corff sy’n gwarchod a hyrwyddo’r Gymraeg fod yn bryderus am y fath fewnlifiad enfawr i Fôn?” meddai.

PAWB yn cynnig darlith

Mae PAWB wedi cyflwyno cais i Bwyllgor Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 am “gyfle i gyflwyno darlith wyddoniaeth sy’n cynnig safbwynt gwahanol i’r hyn a gafwyd yn Wrecsam”.

“Nid safle’r Wylfa yw’r unig fygythiad niwclear i Gymru. Mae safle Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf sydd yn ffefryn ar gyfer y prosiect niwclear newydd cyntaf yn beryglus o agos at Fro Morgannwg a De ddwyrain Cymru,” meddai Dylan Morgan.

“Mae Oldbury yn Sir Gaerloyw yn safle arall a ffefrir gan gwmni Horizon ar gyfer gorsaf niwclear newydd. Cwta hanner awr o ffin Sir Fynwy mae’r safle hwnnw”.

Yn ôl yr ymgyrchydd mae “safbwynt gwrth-niwclear PAWB ar seiliau gwyddonol cadarn.”

“Mae’r safbwynt hwnnw ochr yn ochr â’n dyhead i weld Cymru yn datblygu rhaglenni ynni adnewyddol ac arbed ynni beiddgar yn adlewyrchu dyheadau llywodraeth y Cynulliad a phobl Cymru.

“Dylai’r farn fwyafrifol honno gael ei chlywed mewn darlith wyddoniaeth ar faes Eisteddfod Bro Morgannwg,” meddai.

Eisoes, mae arweinydd y Blaid Werdd Gymreig wedi ymosod ar Blaid Cymru am bleidleisio tros gael atomfa niwclear newydd ym Môn.

Roedd yn cyhuddo cynhadledd y Blaid o droi cefn ar ei hegwyddorion er mwyn diogelu seddi yn y gogledd-orllewin.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, eu bod nhw “wedi derbyn y llythyr ac mae’r Eisteddfod yn fwy na pharod i roi cyfle i PAWB i draddodi darlith ym Mhrifwyl 2012”.