Bu’n rhaid i jetiau rhyfel hebrwng dwy awyren – un i Efrog Newydd a’r llall i Detroit – ar ôl amheuon bod teithwyr yn gor ddefnyddio’r toiledau a hynny degawd wedi trychineb ymosodiadau Medi 11, 2001.

Ar daith awyren o Los Angeles i Efrog Newydd gyda chwmni American Airlines, fe wnaeth tri theithiwr ddefnyddio’r lle chwech sawl gwaith, meddai swyddogion. Cafodd y tri eu rhyddhau ar ôl i’r awyren lanio’n ddiogel ym maes awyr Kennedy yn Efrog Newydd.

Yn gynharach, ar daith Denver i Detroit ar awyren Frontier Airlines, roedd staff yn pryderu bod dau o bobl yn “treulio amser hir ofnadwy” yn y toiledau, meddai’r llefarydd Peter Kowalchuck.

Cafodd tri o’r teithwyr eu holi gan yr heddlu ym Maes Awyr Metropolitan Detroit ond cawson nhw eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Dywedodd yr FBI fod y jetiau wedi hebrwng yr awyrennau fel mesur “gofal”.

Mae mesurau diogelwch llym wedi bod yn Efrog Newydd ar ôl i swyddogion ffederal dderbyn rhybudd am gynllwyn bom car ar 11 Medi yn Efrog Newydd neu Washington.