Mae basydd Kings of Leon wedi trydar yn Gymraeg ar ôl darganfod fod gan y band wreiddiau yng Nghymru.
Mae o, ei frodyr Nathan a Caleb a’u cefnder Matthew yn rhan o’r grŵp roc sy’n boblogaidd yn fyd-eang.
Cyhoeddodd Jared Followill, sydd o Nashville, Tennessee, ar Twitter fod ei gyndadau wedi byw yng Nghymru yn yr 18fed ganrif.
Ysgrifennodd neges Gymraeg at un dilynwr: “Diolch yn fawr. Falch o fod yma.”
Balch o fod yn Gymro
“O’r diwedd rydw i wedi darganfod o le mae’r Followills yn dod. Roedden ni wedi symud o Gymru i Virginia yn y 1700au,” meddai.
“Rydw i’n Gymro. Cŵl.
“Mae yna Gymru ac Americaniaid brodorol ar ochr fy nhad, a Saeson ac Americaniaid brodorol ar ochr fy mam.”