Nathan Brew
Nathan Brew sy’n dweud y bydd ei frawd yn gaffaeliad yn erbyn Fiji a Samoa yng Nghwpan Rygbi’r byd…
Does dim byd yn achosi mwy o nerfusrwydd i chwaraewr na gorfod aros i glywed os ydych chi wedi cael eich dewis i fod yn rhan o’r garfan ryngwladol ar gyfer twrnamaint rygbi mwya’r byd. Es i drwy’r broses yma nôl yn 2003.
Yn anffodus, bryd hynny, ni chefais i fy newis i fynd i Awstralia. Dw i’n gallu cydymdeimlo gyda chwaraewyr fel Jonathan Thomas, ac yn deall yn iawn y siom sy’n dod gyda gwybod eich bod yn colli mas ar y cyfle i gynrychioli’ch gwlad ar y llwyfan mwyaf.
Ond mae unrhyw deimladau o siom a thristwch wedi troi’n hapusrwydd a balchder erbyn hyn, wrth i fy mrawd Aled gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Seland Newydd.
Mae’r cyfle yma sydd gan Aled yn ganlyniad o’r gwaith caled mae wedi rhoi i mewn i’w rygbi, ac yn dangos fod unrhyw beth yn bosib gyda gwaith called ac ymroddiad ( a thalent hefyd!).
Dw i’n credu fod y grŵp mae Cymru ynddo wedi helpu achos Aled. Mae chwaraewyr Fiji a Samoa yn enwog am fod yn rhedwyr a thaclwyr cryf ac egnïol, a dyna gryfderau gêm Aled. Efallai bod Warren Gatland yn bwriadu defnyddio’r cryfderau hyn yn erbyn yr ynyswyr.
Nawr bod y penderfyniadau mawr wedi’u gwneud, a’r garfan wedi’i ddewis, gallwn droi at y cwestiwn mawr sydd ar wefusau pob cefnogwr. Pa mor bell fydd Cymru yn mynd yn y gystadleuaeth?
Does dim dwywaith amdani, mae gennym ni grŵp caled. Rydym ni mewn grŵp gyda thimau sydd wedi bod yn chwarae’n dda iawn yn ddiweddar, ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn ystod y twrnamaint. De Affrica yw pencampwyr y byd, a’r ffefrynnau i ennill y grŵp. Fyddai hi ddim yn amhosib i Gymru ennill y gêm gyntaf yn Wellington, ond fe fyddai yn sioc i’r byd rygbi.
Heb y sioc yma yn y gêm gyntaf, fe fydd angen i Gymru faeddu pob tîm arall yn y grŵp i fod yn sicr o orffen yn ail a symud ymlaen i’r rownd nesaf. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd.
Mae hanes Cymru yn erbyn Fiji a Samoa, yn enwedig yng Nghwpan y Byd, yn brawf o hynny. Ar ôl gêm gyfartal Cymru gyda Fiji yn ddiweddar, yn ogystal â buddugoliaeth Samoa dros Awstralia, yr unig beth pendant am y grŵp yma yw bod pob gêm yn mynd i fod yn frwydr a hanner.
Rydw i’n dechrau swnio braidd yn negyddol, felly dw i’n mynd i orffen ar nodyn positif. Wrth edrych ar garfan Cymru, mae’n werth nodi’r cymysgedd o chwaraewyr profiadol sydd gennym, yn ogystal â’r chwaraewyr ifanc fydd yn awyddus i greu argraff dda.
Heb os, mae gennym ni garfan dalentog iawn sy’n ysu i ddangos eu doniau i’r byd. Os allwn chwarae i’r un safon a 2005 a 2008, blynyddoedd y Gamp Lawn, does dim rheswm o gwbl pam na all Cymru syfrdanu’r byd rygbi. Amdani!