Morgan Parra (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yfory, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Mae Ffrainc yn gallu bod yn merde a’n magnifique yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Pa dîm fydd yn herio’r Crysau Duon yng ngrŵp A?
Cafodd Ffrainc le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011 ond cafwyd ambell siom yn ystod y cyfnod paratoi, er enghraifft colli o dros 40 pwynt yn erbyn De Affrica a’r Ariannin yn ystod haf 2010 a chael cweir 59-16 gan Awstralia ddiwedd Tachwedd.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011 gorffennodd yn ail ar ôl colli’n gwbl annisgwyl i’r Eidal am y tro cyntaf yn ei hanes.
Maeddodd Iwerddon ddwywaith, gartref ac oddi cartref, wrth baratoi am Gwpan Rygbi’r Byd.
Mae’n bedweryddar restr goreuon yr IRB.
Safle tebygol: Y rownd gynderfynol
Y Record
Mae Ffrainc wedi chwarae yn rowndiau terfynol pob Cwpan y Byd ers y dechrau. Nid yw wedi ennill y Cwpan erioed ond cyrhaeddodd y ffeinal ddwy waith, yn 1987 yn erbyn y Crysau Duon ac yn 1999 yn erbyn Awstralia.
Collodd yn y rownd gynderfynol yn 1995, 2003 a 2007 a chafodd ei maeddu gan Loegr yn y chwarteri yn 1991.
Maen nhw’n enwog am daro Seland Newydd allan o’r gystadleuaeth, gan wneud hynny yn 1999 ac eto yn 2007.
Chwaraewr i’w wylio
Morgan Parra
Mewnwr 22 oed o glwb Clermont a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei wlad dair blynedd yn ôl.
Mae bellach yn ddewis cyntaf i’r tîm cenedlaethol a daeth yn hysbys am ei weledigaeth graff a’i basio cyflym ac effeithiol.
Ef bellach yw prif giciwr y tîm ac enillodd yr enw ‘le petit général’ gan gydchwaraewyr am y ffordd y bydd yn gweiddi gorchmynion ar ei flaenwyr!
Yr Hyfforddwr
Marc Lievremont
Enillodd Marc Lièvremont 25 cap fel blaenasgellwr i’w wlad cyn mentro i faes hyfforddi, yn gyntaf gyda thîm dan 21 ei wlad ac wedyn gyda thîm Dax, yn Uwch-gynghrair Ffrainc.
Yn 2007 cafodd ei benodi’n hyfforddwr y tîm cenedlaethol. Cymysg iawn fu ei gyfnod wrth y llyw ac yntau’n cael ei feirniadau’n gyson am bolisi anwadal wrth ddewis ei chwaraewyr.
Cafodd lwyddiant mawr yn 2010 pan enillodd ei dîm y Gamp Lawn ond siomedig fu canlyniadau pencampwriaeth 2011.
A wyddoch chi?
Cafodd Ffrainc ei diarddel o Gystadleuaeth y Pum Gwlad yn 1934 am fod, ymhlith rhesymau eraill, ei chwarae yn rhy ffyrnig ac yn 1961 methwyd â chwblhau gêm rhyngddi hi a’r Springboks ym Mharis oherwydd ymladd mawr ar y cae.
Dewiswyd y ceiliog Ffrengig fel symbol ar y crys cenedlaethol gan chwaraewyr y tîm ar ôl eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Alban yn 1911. Ystyrid ei fod yn aderyn cystadleuol, ymosodol a balch.