Y Kindle
Mae’r Lolfa wedi derbyn ymateb “ychydig yn fwy cadarnhaol” gan Amazon ynglŷn â’u cais i werthu llyfrau Cymraeg ar Kindle.
Cafodd y wasg wybod fis diwethaf na fyddai Amazon yn caniatáu llyfrau Cymraeg ar y ddyfais ddi-wifr, am nad oedd modd i’r cwmni eu gwirio nhw o flaen llaw.
Ond dywedodd Lefi Gruffudd o’r Lolfa fod gobaith bellach y gallai llyfrau’r wasg gael eu cynnwys ymysg y cannoedd o filoedd sydd ar gael i’w lawrlwytho.
Mae Kindle yn ddyfais darllen hynod boblogaidd, ac mae Amazon ballech yn gwerthu mwy o ‘e-lyfrau’ digidol nag o lyfrau papur.
Fe fyddai cael eu derbyn ar wefan Amazon yn caniatáu i lyfrau awduron Cymraeg gael eu lawrlwytho mewn eiliadau gan unrhyw un sydd ag un o’r dyfeisiau.
“Rydyn ni’n disgwyl clywed yn ôl ganddyn nhw mewn rhai wythnosau, ond maen nhw wedi awgrymu fod modd i ni ddod rownd y broblem,” meddai Lefi Gruffudd.
Dywedodd mai “ateb dros dro yw hi allai olygu ei bod hi’n bosib gwerthu llyfrau Cymraeg y Lolfa”.
“Rydyn ni hefyd yn disgwyl clywed nôl wrth y Cyngor Llyfrau ynglŷn â’r ffordd ymlaen o ran hwyluso cynhyrchu e-lyfrau Cymraeg a’u rhoi ar-lein.”
‘Y galw yno’
Dywedodd Lefi Gruffudd ei fod datrys y mater bellach yn “fater o frys ” gan fod cymaint o bobol yn cael eu llyfrau ar y Kindle a’r iPad.
Roedd Amazon wedi derbyn dau lyfr Cymraeg yn y gorffennol, cyn penderfynu na fyddwn nhw’n derbyn rhagor, meddai.
“Mae un o’r ddau e-lyfr, Y Ferch ar y Ffordd gan Lleucu Roberts, wedi gwerthu 15 copi yn ddiweddar, felly mae’n sicr fod y galw yno,” meddai Lefi Gruffudd.
Dywedodd Lleucu Roberts, o Gaernarfon, wrth Golwg 360 mai e-lyfrau yw’r dyfodol ac na fydd yn talu “bod ar ei hol hi”.
“Serch hynny, dydw i ddim yn gwybod beth fydd yr effaith ar y diwydiant llyfrau yng Nghymru. Mae’n bwysig nad yw’n cael ei niweidio gan hyn,” meddai.
“Yn bersonol, rydw i’n ei chael yn anodd meddwl am fyd heb lyfrau. Ond fydd popeth byth ar Kindle – mae hynny’n amhosib.”