Methodd Rob Earnshaw a manteisio ar gyfle gorau Cymru

Lloegr 1 – 0 Cymru

Daeth gôl y Saeson wedi 35 munud o’r gêm – Ashley Young yn rhwydo wedi rhediad a chroesiad isel gan Stuart Downing.

Er tegwch i Gymru roedd yn hanner da i’r cochion a’r chwaraewyr i gyd yn edrych yn gyfforddus iawn.

Lloegr ddechreuodd orau, ond wedi’r deg munud cyntaf fe setlodd y Cymry a dechrau cadw’r bêl yn dda ymysg ei gilydd.

Dim ond hanner cyfleoedd ddaeth i gyfeiriad y Cymry – y gorau wedi rhediad a chroesiad gwych gan y capten Aaron Ramsey, ond methodd Joe Ledley a’i chyrraedd yn y postyn pellaf.

Rheolodd Lloegr ddeg munud olaf yr hanner ar ôl iddyn nhw sgorio a bydd Gary Speed yn weddol hapus i beidio ag ildio un arall.

Yr ail hanner

Dylai Gareth Bale fod wedi cael cyfle i ddod ar sgôr yn gyfartal yn fuan yn yr ail hanner wedi pas lletraws gan Ramsey. Dyfarnwyd fod yr asgellwr yn camsefyll, ond roedd yr ailchwarae’n dangos nad ydoedd mewn gwirionedd.

Daeth cyfle da cyntaf yr ail hanner i Loegr, ond ergydiodd Frank Lampard dros y trawst o ymyl y cwrt.

Penderfynodd Gary Speed ei bod yn amser cyflwyno Rob Earnshaw wedi 67 munud, gan gymryd lle Morison yn yr ymosod.

Roedd Cymru’n dal i chwarae pêl-droed hyderus gydag ugain munud yn weddill, ac roedd eu hwyliau’n cael eu hadlewyrchu gan y cefnogwyr Cymreig oedd mewn llais da trwy’r nos.

Cyfleoedd

Daeth cyfle i Bale o gic rydd wedi 75 munud, ond hedfan dros y traws wnaeth ei ergyd.

Cymru oedd yn pwyso erbyn hyn a dyfarnwyd cic rydd arall i’r ymwelwyr. Hwyliodd y bêl i’r postyn pellaf lle cafodd Blake rywbeth arni a disgynnodd y bêl o Earnshaw gyda rhwyd wag o’i flaen. Yn anffodus ergydiodd dros y trawst o chwe llath. Cyfle euraidd.

Daeth cyfle gwych arall i’r Cymry gyda 10 munud yn weddill wrth i Ramsey groesi i Gunter. Rheolodd yntau’n dda ac ergydio ond arbedodd Joe Hart yn wych wrth i chwiban y dyfarnwr chwythu am drosedd aneglur gan y Cymro.

Daeth cyfle arall i Earnshaw funudau’n ddiweddarach, ond crymanodd ei ergyd heibio’r postyn. Roedd Lloegr yn edrych yn anghyfforddus wrth i Gymru gynyddu’r pwysau.

Parhau gwnaeth pwysau’r Cymry am y munudau olaf ond doedd dim gôl i ddod ar nodon o gynnydd pellach i dîm Gary Speed.

Tîm Cymru: Hennessey, Gunter, Williams, Blake, Taylor, Bale, Crofts, Collison, Ramsey, Ledley, Morison

Eilyddion: Myhill, Danny Collins, James Collins, King, Allen, Robson-Kanu, Earnshaw.