Lloegr 1 – 0 Cymru (hanner amser)
Mae Cymru ar ei hôl hi o gôl i ddim yn Wembley ar yr hanner.
Daeth gôl y Saeson wedi 35 munud o’r gêm – Ashley Young yn rhwydo wedi rhediad a croesiad isel gan Stuart Downing.
Er tegwch i Gymru roedd yn hanner da i’r cochion a’r chwaraewyr i gyd yn edrych yn gyfforddus iawn.
Lloegr ddechreuodd orau, ond wedi’r deg munud cyntaf fe setlodd y Cymru a dechrau cadw’r bêl yn dda ymysg ei gilydd.
Dim ond hanner cyfleoedd ddaeth i gyfeiriad y Cymry – y gorau wedi rhediad a croesiad gwych gan y capten Aaron Ramsey, ond methodd Joe Ledley a’i chyrraedd yn y postyn pellaf.
Rheolodd Lloegr ddeg munud olaf yr hanner ar ôl iddyn nhw sgorio a bydd Gary Speed yn weddol hapus i beidio ag ildio un arall.
Tîm Cymru: Hennessey, Gunter, Williams, Blake, Taylor, Bale, Crofts, Collison, Ramsey, Ledley, Morison
Eilyddion: Myhill, Danny Collins, James Collins, King, Allen, Robson-Kanu, Earnshaw.