Sam Warburton, Capten Cymru
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Ar ôl siom 2007 fe fydd Cymru yn gobeithio cyrraedd rownd yr wyth olaf eleni er mwyn ad-ennill ei hunan barch – a chadw swydd yr hyfforddwr…
Er bod Cymru wedi methu mynd ymhellach na’r rowndiau rhagbrofol yng Nghwpan y Byd 2007, roedd y ffaith ei bod wedi gorffen yn y tri cyntaf yn ei grŵp ar ddiwedd y gêmau hynny yn golygu y byddai’n cael lle awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011.
Er hynny, nid yw’r cyfnod yn arwain at Gwpan y Byd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yng ngêmau’r hydref yn 2010 collodd ei gêmau yn erbyn Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia gan lwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn Ffiji.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad cafwyd perfformiad cymysg gan Gymru a hithau’n fuddugol yn erbyn yr Alban, yr Eidal ac Iwerddon.
Roedd gwell i ddod fis diwethaf wrth i Cymru faeddu Lloegr a’r Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm.
Ar hyn o bryd mae Cymru’n 6ed ar restr yr IRB. Ers sefydlu’r rhestr honno yn 2003, yr uchaf mae Cymru wedi’i gyrraedd yw’r 4ydd safle ar ddechrau 2009.
Ei safle isaf erioed oedd 10fed, yn dilyn Cwpan y Byd 2007.
Safle tebygol: Cyrraedd rownd yr wyth olaf
Y Record
Ymddangosodd Cymru ym mhob Cwpan y Byd ers y dechrau yn 1987.
Yr adeg honno enillodd ei thair gêm ragbrofol a churo Lloegr yn rownd yr wyth olaf.
Wedi iddi golli i’r Crysau Duon yn y rownd gynderfynol, aeth ymlaen i guro Awstralia yn y gêm oedd yn pennu’r trydydd a’r pedwerydd safle.
Yn 1991 a 1995 methodd Cymru fynd ymhellach na’r rowndiau rhagbrofol, gan ennill un gêm yn unig yn y naill gystadleuaeth a’r llall.
Gwnaeth yn well yn y ddau Gwpan Byd dilynol gan golli yn y rownd gogynderfynol yn 1999 (a hithau wedi gorffen ar frig ei grŵp) ac yn 2003.
Yn 2007 bu’n rhaid iddi adael y gystadleuaeth ar ôl gorffen yn y trydydd safle yn ei grŵp, a hithau wedi colli yn erbyn Ffiji ac Awstralia.
Chwaraewr i’w wylio
Sam Warburton
Heb amheuaeth, y blaenasgellwr agored hwn, sydd ddim ond yn 22 oed, oedd chwaraewr gorau Cymru yn ystod tymor 2010-11.
Cynrychiolodd Gymru am y tro cyntaf yn erbyn tîm Unol Daleithiau America ym mis Mehefin 2009. Cyn hynny bu’n gapten ar dîm dan 20 ei wlad.
Pan oedd yn ifanc bu’n chwarae ochr yn ochr â Gareth Bale yn nhîm pêl-droed Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a chafodd gyfle i wneud gyrfa iddo’i hunan yn y gamp honno.
Ond rygbi a enillodd y dydd ac ers ei lencyndod bu’n aelod o glwb Gleision Caerdydd.
Yr Hyfforddwr
Warren Gatland
Mae Warren Gatland yn 47 oed ac yn frodor o Hamilton, Seland Newydd.
Chwaraeodd 140 o weithiau fel bachwr i dîm Waikato rhwng 1988 ac 1994, ac yntau’n gapten ar y tîm am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw.
Roedd yn dîm llwyddiannus iawn a faeddodd yn ei dro dîm Cymru, y Llewod, Canada, yr Ariannin, Awstralia a Gorllewin Samoa tra oedd Gatland yn aelod ohono.
Enillodd hefyd 17 o gapiau dros y Crysau Duon.
Ar ôl gorffen chwarae treuliodd ychydig o amser yn hyfforddi yn Iwerddon a Lloegr cyn mynd yn Gyfarwyddwr Rygbi ar dîm Connacht yn 1996.
Cafodd dipyn o lwyddiant yno ac, o ganlyniad, ar ôl dwy flynedd, cafodd ei benodi’n hyfforddwr tîm Iwerddon.
Yn 2001 penderfynodd Undeb Rygbi Iwerddon beidio ag adnewyddu ei gytundeb. Siomedig at ei gilydd oedd perfformiad y tîm cenedlaethol o dan ei arweiniad, gan ennill 18 buddugoliaeth yn unig mewn 38 o gêmau.
Ond rhwng 2002 a 2005 cafodd Gatland gyfnod eithriadol o lwyddiannus fel hyfforddwr a chyfarwyddwr rygbi tîm Wasps.
Yn 2002, 2003 a 2004, nhw oedd pencampwyr Uwch-gynghrair Lloegr ac yn 2004 hefyd, nhw gipiodd Gwpan Heineken.
Ar ôl dychwelyd am gyfnod i hyfforddi yn Seland Newydd, cafodd ei benodi’n hyfforddwr tîm Cymru ym mis Rhagfyr 2007.
A wyddoch chi?
Yn 1905 pan gododd torf o 47,000 ym Mharc yr Arfau i ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ fel ymateb i’r haka roedd y Crysau Duon newydd ei berfformio, dyna oedd y tro cyntaf erioed i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn unrhyw achlysur yn y byd chwaraeon.