Criw Sgorio
Pa chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru greodd argraff ar griw Sgorio dros y penwythnos? Dyma dîm yr wythnos:
Golwr
Nick Thomas (Y Drenewydd)
Er i’r Drenewydd ildio tair gôl yn erbyn Port Talbot, roedd perfformiad Thomas rhwng y pyst yn arbennig gan rwystro Port Talbot rhag cofrestru sgôr criced!
Amddiffynwyr
Chris Roberts (Bangor)
Cael ei ddewis ar sail ei berfformiad gwrth ymosodol mae Roberts. Llwyddodd i greu problemau lu ar yr asgell chwith wrth gyfuno â Sion Edwards a’i groesiad arweiniodd at gôl Chris Jones.
David Hayes (Prestatyn)
Yn ogystal â rhwydo gôl gyntaf Prestatyn, roedd Hayes yn gawr yn yr amddiffyn wrth i’w dîm chwalu Caerfyrddin, oedd wedi cyrraedd Gerddi Bastion yn llawn hyder ar ôl trechu Port Talbot.
Steve Evans (Y Seintiau)
Dewis Malcolm Allen fel Seren y Gêm fyw ddydd Sadwrn wrth iddo gadw ymosodwyr y Cochion yn ddistaw trwy’r prynhawn.
Jack Lewis (Castell-nedd)
Symudodd Lewis o Brestatyn i’r Gnoll yn ystod yr haf oherwydd ei allu ymosodol yn ogystal â’i allu amddiffynnol ac roedd ei ddoniau’n amlwg wrth i’r Eryrod anghofio’r siom o golli yn erbyn Lido Afan gan drechu Airbus.
Canol Cae
Mark Jones (Y Bala)
Unwaith eto, Mark Jones oedd seren Y Bala gan arwain at ei reolwr Colin Caton i’w ddisgrifio fel chwaraewr gorau’r gynghrair. Mae wedi ei enwi yn Nhîm yr Wythnos Golwg360/Sgorio dair gwaith yn olynol bellach felly mae’n anodd dadlau â Caton.
Mark Connolly (Y Bala)
Yn ogystal â Jones, roedd Connolly yn arbennig yng nghanol cae a llwyddodd i sgorio ddwywaith wrth i’r Bala chwalu Aberystwyth ar Goedlan y Parc a chadw eu lle ar y brig.
Neil Gibson (Prestatyn)
Roedd yn brynhawn i’w gofio i chwaraewr-reolwr Prestatyn wrth i’w dîm sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn yr Uwch Gynghrair gan faeddu Caerfyrddin 6-1, ac i goroni’r cyfan, rhwydodd Gibson ddwy o’r goliau!
Ymosodwyr
Martin Rose (Port Talbot)
Daeth Rose i’r maes fel eilydd brynhawn Sadwrn a gwnaeth ei farc yn syth gan rwydo ddwywaith er mwyn sicrhau triphwynt i’r Gwyr Dur.
Steve Rogers (Prestatyn)
Er mai un gôl yn unig rwydodd Rogers wrth i Brestatyn chwalu Caerfyrddin, roedd yr ymosodwr yn ddraenen yn ystlys yr Hen Aur trwy’r prynhawn a chafodd ei ganmol i’r cymylau gan un o gyn arwyr y gynghrair, Marc Lloyd-Williams, oedd yn sylwebu ar ran Sgorio.
Lee Hunt (Y Bala)
Un arall o dîm Colin Caton sydd wedi creu argraff yr wythnos yma gan fachu dwy gôl ar Goedlan y Parc. Mae ei bartneriaeth gyda Chris Mason yn mynd i fod yn un ffrwythlon iawn ar sail y perfformiad yma.
Bydd modd gweld perfformiadau’r chwaraewyr uchod yn fideos uchafbwyntiau Sgorio o holl gemau’r penwythnos yn ein Crynodeb Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos hon.