Dean Saunders, hyfforddwr Wrecsam
Adroddiad gan Huw Ifor wrth i Wrecsam faeddu Kiddiminster 2 – 0…

Ddydd Sadwrn fe ddychwelodd y brodyr Mike a Mark Williams i’r Cae Ras. Roedd eu clwb Kiddeminster yn 3ydd yn y gynghrair ac wedi ennill pob un o’u gemau oddi cartref.

Roedd eu hyder yn amlwg wrth iddynt gyrraedd y Cae Ras yn barod i ymosod, ac roedd y gêm yn llanw cyffro.

Roedd golwr Wrecsam, Chris Maxwell yn chwarae i dîm dan 21 Cymru felly daeth Joslain Mayebi i mewn yn ei le.

Roedd y cefnogwyr ychydig yn nerfus gan nad oedd wedi chwarae erioed o’r blaen.

Ond yn ffodus i Wrecsam roedd Mayebi yn arbennig o dda ac fe gafodd ddigon i’w wneud.

Cafodd Lee Fowler ei enwi’n chwaraewr gorau’r gêm ond roedd Mayebi a Curtis Obeng yn agos.

Roedd Obeng yn wych a rhoddodd brynhawn anghyfforddus iawn i Mike Williams.

Mae ei gyflymder yn peri problemau i amddiffynwyr ac mae ei groesiadau wedi gwella yn arw ac wedi creu sawl cyfle i Wrecsam sgorio.

Ar ôl 24 munud fe redodd Obeng i mewn i’r cwrt cosbi a phasio’r bel i Tolley, a thrawodd yntau’r bêl tuag at y gôl.

Tarodd y bel yn erbyn un o’r amddiffynwyr a mynd i gefn y rhwyd.

Roedd Morrell eisoes wedi rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd ar ôl pas odidog gan Fowler ond roedd Morrell yn camsefyll.

Fe gurwyd y trap camsefyll ychydig funudau yn ddiweddarach ond red ei ail gyffyrddiad yn drwm ac ergydiodd heibio’r postyn.

Roedd Wrecsam yn cysgu ar gychwyn yr ail hanner a chafodd Luke Medley gyfle euraid i sgorio ond peniodd y bel yn syth i afael Mayebi.

Deffrodd hyn Wrecsam ac wedi tri munud o’r ail hanner roedd Obeng ar garlam i lawr ystlys dde unwaith eto.

Roedd ei groesiad i’r cwrt cosbi yn fendigedig ac yno roedd Danny Wright i sgorio’i gol gyntaf i’r clwb.

Bu’n rhaid i Mayebi wneud tri arbediad da cyn diwedd y gêm i gadw Wrecsam ar y blaen. Mae Wrecsam bellach wedi ennill chwe gêm o’r bron, a dyma eu cychwyn gorau i dymor ers 1902.

Un peth sydd yn braf yw edrych ar ymatebion yr hyfforddwr Dean Saunders ar ochr y cae.

Mae’n ymateb yn wyllt i bob camgymeriad, er gwaetha’r ffaith fod Wrecsam yn chwarae mor dda.

Mae’n disgwyl mwy gan y chwaraewyr ac mae hynny’n arwydd calonogol i gefnogwyr y clwb.