Dr Hywel Ffiaidd
Mae rheolwr cwmni Digwyddiadau MP wedi dweud ei fod yn ystyried cyhoeddi cryno ddisg o sioe Dr Hywel Ffiaidd.
Yr wythnos diwethaf datgelodd Golwg360 y bydd Sioe Dr Hywel Ffiaidd yn mynd ar daith ar draws Cymru ym mis Ionawr 2012.
Daw hynny wedi i’r cymeriad pync-rocaidd ddychwelyd i lwyfan Maes C yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ar ôl 25 mlynedd.
Dywedodd rheolwr Digwyddiadau MP, Mici Plwm, y byddai ef a chrëwr Dr Hywel Ffiaidd, Dyfed Tomos, yn trafod manylion y sioe yn fuan.
“Mae’n wych ein bod ni’n cydweithio i fynd ar daith ar draws Cymru, ar ôl y llwyddiant yn yr Eisteddfod,” meddai.
“Yr ymateb a gafodd y doctor yn yr Eisteddfod sydd wedi arwain at y daith.
“Mae hi’n mynd i fod yn daith gyfan, yn mynd i bob cwr o Gymru,” meddai.
Addawodd y bydd y sioe yn un “fawreddog ac ysblennydd”. “Mi fyddwn ni’n defnyddio effeithiau llwyfan a bob math o oleuadau.”
“Dw i’n gobeithio y bydd yn ddigwyddiad mawr ar galendr y byd pop os allen ni ei alw yn hynny,” meddai.
“Mi fydda i wedi trefnu’r lleoliadau. Ond, os oes gan rywun ddiddordeb mawr mewn cael y sioe yn eu hardal nhw, fe ddylen nhw gysylltu â Digwyddiadau MP a bydd rhaid i ni drafod.”