Senedd San Steffan
Mae gwleidyddion o dair plaid wahanol yn Nhŷ’r Cyffredin wedi lansio ymdrech drawsbleidiol â’r nod o “achub S4C”, heddiw.

Mae tri Aelod Seneddol o bleidiau gwahanol wedi cyflwyno gwelliant i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus â’r nod o dynnu S4C allan ohono.

Yr Asau yw Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Susan Elan Jones o’r Blaid Lafur a Hywel Williams o Blaid Cymru.

Fe fydd Mesur Cyrff Cyhoeddus yn rhoi’r hawl i weinidogion Llywodraeth San Steffan newid neu ddileu S4C heb ymgynghori â’r senedd.

Ym mis Chwefror ceisiodd yr Arglwydd Wigley gyflwyno gwelliant i’r mesur fyddai’n gorfodi iddyn nhw gael cytundeb gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad cyn gweithredu, ond ni chafodd ei basio.

Dywedodd Menna Machreth, o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn “falch iawn bod aelod o dair plaid yn San Steffan wedi cytuno i gynrychioli’r degau o filoedd o bobl sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cynlluniau annoeth y Llywodraeth – cynlluniau a fyddai’n rhoi dyfodol S4C, ein hunig sianel deledu Gymraeg, yn y fantol”.

“Dros y mis nesaf, fe fyddwn ni, ynghyd â mudiadau eraill, yn pwyso ar wleidyddion i gyflawni’r hyn mae pobl Cymru eisiau, sef tynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus,” meddai Menna Machreth,

“Mae’r Llywodraeth wedi dewis anwybyddu argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig i newid eu cynlluniau gogyfer S4C, felly rydym ddisgwyl cefnogaeth i’r gwelliant gan yr ASau Ceidwadol Alun Cairns, Guto Bebb a David Davies hefyd.”

Dywedodd fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog aelodau a chefnogwyr i gefnogi’r ymdrech trawsbleidiol i hepgor S4C o’r Mesur, trwy e-bostio’r Aelodau Seneddol a fydd yn ystyried y cynlluniau, ac ymweld â gwefan y mudiad,

Ychwanegodd y bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trefnu digwyddiad tu allan i bencadlys S4C ar 21 Medi a rali yn Wrecsam ar 8 Hydref i “dynnu sylw at y bygythiad i’r sianel”.