Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn lansio ei ap iPhone dwyieithog cyntaf am hanner dydd yfory.
Dyma’r ap “gyntaf o’i fath” i gael ei ddatblygu gan Wasanaeth Tân ac Achub yn y Deyrnas Unedig, medden nhw.
“Rydym yn falch iawn mai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub cyntaf i ddatblygu’r cymhwysiad iPhone dwyieithog, unigryw hwn,” meddai Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Anthony Ernest.
“Mae’n rhoi cyfle i’n cymunedau ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth mewn modd arloesol, sy’n enghraifft arall o sut mae’r Gwasanaeth yn parhau i gwrdd â gofynion cynulleidfa’r unfed ganrif ar hugain”.
Dywedodd ei wedi dod yn fwy ac yn fwy amlwg bod cyswllt rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig, ac mai nod yr ap yw mynd i’r afael gyda’r broblem.
Bob blwyddyn, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn mynychu tua 9566 o ddigwyddiadau llosgi bwriadol sy’n costio trethdalwyr £52,804.32 y flwyddyn.
Drwy ddatblygu’r cymhwysiad iPhone, nod y Gwasanaeth Tân yw rhoi modd i bobl sydd â phryderon ynglŷn â llosgi bwriadol a thrais domestig gael gafael ar wybodaeth berthnasol ac adrodd yn ddienw, meddai.
“Gall unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â llosgi bwriadol a thrais domestig yn ardal De Cymru lawrlwytho’r cymhwysiad hwn yn rhad ac am ddim er mwyn cael gafael ar wybodaeth ac adrodd yn ddienw am dramgwyddwyr potensial llosgi bwriadol neu drais domestig,” meddai Mick Flanagan, Rheolwr Grŵp Archwilio Tân a Throseddau Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
“Rydw i, a staff eraill Uned Troseddau Tân, yn gobeithio’n fawr y bydd pawb yn cefnogi’r cymhwysiad unigryw hwn ac edrychwn ymlaen at ei arddangos ac esbonio’i weithrediadau yn y lansiad ar ddydd Mawrth.”